
2017 No. 529 (Cy. 112)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017
Gwnaed 5 Ebrill 2017
Yn dod i rym 5 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 21B(8) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Yn unol ag adran 21B(10) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Pennu’r Weithdrefn) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Mai 2017.
Pennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol
2 

(1) Mae adran 21B(7) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) an appeal to the Welsh Ministers under section 174 of the principal Act (appeal against enforcement notice) as applied by regulation 16 of, and Part 1 of Schedule 4 to, the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015 (S.I. 2015/1597 (W. 196)) (appeals against hazardous substances contravention notices).”
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017