
2017 Rhif 528 (Cy. 111)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 5 Ebrill 2017
Yn dod i rym 5 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Yn unol ag adran 333(3E) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau mewn perthynas â ffioedd mewn cysylltiad â cheisiadau tybiedig
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl rheoliad 10(7) mewnosoder—“
(7A) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (7) at yr awdurdod perthnasol ar yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad at yr apelydd.
(7B) Rhaid i’r awdurdod perthnasol hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) pan fydd yr apelydd wedi talu’r ffi yn unol â pharagraffau (6) a (7); neu
(b) os nad yw’r apelydd wedi talu’r ffi o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (7).”
Darpariaethau trosiannol ac arbed
3 
Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio y tybir iddo gael ei wneud, yn rhinwedd adran 177(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi), mewn cysylltiad â hysbysiad gorfodi a ddyroddir cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017