
2017 Rhif 52 (Cy. 23)
Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2017
Gwnaed 21 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ionawr 2017
Yn dod i rym 3 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 186 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac adrannau 9(1), 10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.
Diwygiadau
2 
Mae Atodlen 1 (diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) yn cael effaith.
Dirymiadau
3 
Mae Atodlen 2 (dirymiadau) yn cael effaith.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
21 Ionawr 2017
ATODLEN 1
Diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
Rheoliad 2
Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975
1 

(1) Mae Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthyglau 3(1)(i) a 4(1)(k)—
(a) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”;
(b) yn lle “Part IV of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 4 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
(3) Yn Atodlen 3 (achosion eithriedig), ym mharagraff 18 yn lle “Part IV of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 4 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 53 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy), ym mharagraff (2)(n) yn lle “section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002
3 

(1) Mae Rheoliadau Deddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5C (gweithio gyda phlant), ym mharagraff (k) yn lle “Part IV of the Care Standards Act 2000” rhodder “Part 4 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
4 

(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig), ym mharagraff (6) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
(3) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth a’r dogfennau sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sy’n rhedeg neu’n rheoli cartrefi gofal neu’n gweithio ynddynt), ym mharagraff 5A yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
5 

(1) Mae Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y testun Saesneg, ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.
(3) Y darpariaethau yw—
(a) rheoliad 8(2E) (ffitrwydd y rheolwr);
(b) rheoliad 26(2F) a (2G) (ffitrwydd gweithwyr);
(c) Atodlen 2, paragraff 5A (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy’n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un);
(d) Atodlen 4, paragraff 2(h) (cofnodion eraill).
(4) Yn y testun Cymraeg—
(a) yn rheoliad 8 (ffitrwydd y rheolwr)—
(i) ailrifer paragraff (2E) yn baragraff (2D);
(ii) ym mharagraff (2D) fel y’i hailrifwyd, yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”;
(b) yn rheoliad 26(2Dd) a (2E) (ffitrwydd gweithwyr), yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”;
(c) yn Atodlen 2, paragraff 5A (yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy’n ceisio rhedeg neu reoli cartref plant neu weithio mewn un) yn lle “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”;
(d) yn Atodlen 4 ar ôl paragraff 2(e) (cofnodion eraill) mewnosoder—“
(f) a yw wedi’i gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.”
Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002
6 

(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.
(3) Y darpariaethau yw—
(a) Atodlen 1, paragraffau 1(ba), 2(ca) ac 16(ea) (yr wybodaeth sydd i gael ei chyflenwi ar gais i gofrestru fel person sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliad neu asiantaeth);
(b) Atodlen 3, paragraffau 2A, 2B a 2C (yr wybodaeth a’r dogfennau sydd i gael eu cyflenwi ar gyfer cofrestru fel rheolwr sefydliad neu asiantaeth).
Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002
7 

(1) Mae Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl yn yr Atodlen, yn lle’r cofnod “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002
8 

(1) Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Nwyddau a Gwasanaethau) (Cyrff Cyhoeddus) (Cymru) 2002 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (cyrff cyhoeddus), yn lle “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004
9 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
(3) Y darpariaethau yw—
(a) rheoliad 10(6) (ffitrwydd y rheolwr);
(b) Atodlen 2, paragraff 6B (yr wybodaeth sy’n ofynnol mewn perthynas â darparwyr a rheolwyr cofrestredig asiantaeth a phersonau sydd wedi’u henwi i ddirprwyo ar gyfer person cofrestredig).
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005
10 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
(3) Y darpariaethau yw—
(a) y diffiniad o “social worker” yn rheoliad 2(1) (dehongli);
(b) rheoliad 37(2) (swyddogion adolygu annibynnol).
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005
11 

(1) Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” yn lle “Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”.
(3) Yn rheoliad 38(2) (swyddogion adolygu annibynnol) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”.
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadu) (Darpariaethau Amrywiol) 2005
12 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadu) (Darpariaethau Amrywiol) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “social worker”—
(a) ar ddiwedd paragraff (b) hepgorer “or”;
(b) ar ddiwedd paragraff (c) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—“; or
(d) the register maintained by Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007
13 

(1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (pleidlais absennol yn etholiadau’r Cynulliad), ym mharagraff 4 (gofynion ychwanegol ar gyfer ceisiadau ar sail nam difrifol ar y golwg neu anabledd arall), yn is-baragraff (2)(n) yn lle “section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007
14 

(1) Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (swyddogion adolygu annibynnol)—
(a) ym mharagraff (2) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”;
(b) ym mharagraff (3) yn lle “Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”;
(c) ym mharagraff (4), yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”, ac yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwaid Cyhoeddus 2007
15 

(1) Mae Rheoliadau Atwrneiaeth Arhosol, Atwrneiaeth Barhaus a Gwarcheidwaid Cyhoeddus 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8 (personau a gaiff ddarparu tystysgrif atwrneiaeth arhosol), ym mharagraff (4), yn y diffiniad o “registered social worker” yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.
Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007
16 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” rhodder—“
 “ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi’i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—
(a) yn y gofrestr a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016; neu
(b) yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;”.
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymeradwyo) (Lloegr) 2008
17 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymeradwyo) (Lloegr) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Care Council for Wales”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 “Social Care Wales” has the meaning given by section 67 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”.
(3) Yn rheoliad 3(3) (rhoi cymeradwyaeth) yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008
18 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Cyngor Gofal Cymru”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (“Social Care Wales”) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”.
(3) Ym mhob un o’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (4) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”, ac yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
(4) Y darpariaethau yw—
(a) rheoliad 3(1)(c) (rhoi cymeradwyaeth);
(b) Atodlen 1, paragraff 1(a) (gofynion proffesiynol).
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) 2009
19 

(1) Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “social worker” yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009
20 

(1) Mae Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Asesiadau, Awdurdodiadau Safonol ac Anghydfodau ynghylch Preswyliaeth) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniad o “Cyngor Gofal Cymru”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “Gofal Cymdeithasol Cymru” (“Social Care Wales”) yr ystyr a roddir gan adran 67 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”.
(3) Yn rheoliad 5(1)(b) (cymhwystra i gynnal asesiadau lles pennaf) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010
21 

(1) Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau’n Annibynnol (Mabwysiadu a Maethu) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “gweithiwr cymdeithasol” yn lle “Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru o dan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016”.
Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010
22 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Lloegr) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 46 (cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol), ym mharagraff (1) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011
23 

(1) Mae Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 23 (cyfansoddiad ac aelodaeth panel maethu), ym mharagraff (10)(b) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant gan Sefydliadau Gwirfoddol ac Eraill (Lloegr) 2011
24 

(1) Mae Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant gan Sefydliadau Gwirfoddol ac Eraill (Lloegr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 18 (adolygiadau o achosion plant), ym mharagraff (2) yn lle “the Care Council for Wales under section 56 of the Care Standards Act 2000” rhodder “Social Care Wales under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”.
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011
25 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 159 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—
(a) ar ddiwedd paragraff (4)(a)(iv) hepgorer “or”;
(b) ar ôl paragraff (4)(a)(v) mewnosoder—“or
(vi) any allowance, bursary or award of similar description made under section 116(2)(a) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 which includes payment for meeting additional expenditure incurred by A by reason of A’s disability;”.
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011
26 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (gofynion proffesiynol), ym mharagraff 1(a) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012
27 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Meddwl (Atgyfeiriadau Gofal Sylfaenol a Chymhwystra i Gynnal Asesiadau Iechyd Meddwl Sylfaenol) (Cymru) 2012wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (gofynion proffesiynol), ym mharagraff 1(a) yn lle “Chyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”.
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012
28 

(1) Mae Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2 (pleidlais absennol mewn etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu), ym mharagraff 15—
(a) yn is-baragraff (2)—
(i) ar ddiwedd paragraff (l) hepgorer “or”,
(ii) ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—“, or
(n) a person registered in the register for social workers maintained in accordance with section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”;
(b) yn is-baragraff (3), ym mharagraff (b) yn lle “paragraph (m)” rhodder “paragraph (m) or (n)”.
Gorchymyn Contractio Allan (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol) (Lloegr) 2014
29 

(1) Mae Gorchymyn Contractio Allan (Swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol) (Lloegr) 2014 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “registered social worker” yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) in a register maintained by Social Care Wales under section 80 (the register) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016,”.
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015
30 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 115 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys)—
(a) ar ddiwedd paragraff (4)(a)(iv) hepgorer “or”;
(b) ar ôl paragraff (4)(a)(v) mewnosoder—“
(vi) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy’n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan A oherwydd ei anabledd; neu.”
Rheoliadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal (Aelodaeth) 2015
31 

(1) Mae Rheoliadau’r Comisiwn Ansawdd Gofal (Aelodaeth) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (y seiliau dros anghymhwyso), ym mharagraff 29 yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) in Wales, a register maintained under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016;”.
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015
32 

(1) Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliaid rhag bod yn aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru), yn y tabl—
(a) hepgorer y cofnod am “Cyngor Gofal Cymru”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a nodir yn y tabl a ganlyn—

Y Golofn Gyntaf Yr Ail Golofn
Gofal Cymdeithasol Cymru Yr holl aelodau
Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015
33 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 54(1) (cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol) yn lle “Gyngor Gofal Cymru” rhodder “Ofal Cymdeithasol Cymru”.
ATODLEN 2
Dirymiadau
Rheoliad 3

Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu.

Y Rheoliadau sydd wedi eu dirymu Cyfeirnodau
Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) 2001 O.S. 2001/2136 (Cy. 149)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2002 O.S. 2002/1176 (Cy. 124)
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Cymdeithasol o dan Hyfforddiant) (Cofrestru) 2004 O.S. 2004/709 (Cy. 76)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2004 O.S. 2004/711 (Cy. 78)
Gorchymyn Cyngor Gofal Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) 2004 O.S. 2004/2880 (Cy. 250)
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Cofrestrau Perthnasol o Weithwyr Cymdeithasol) 2005 O.S. 2005/491
Rheoliadau Cyngor Gofal Cymru (Penodi, Aelodaeth a Gweithdrefn) (Diwygio) 2012 O.S. 2012/3023 (Cy. 307)

