
2017 Rhif 51 (Cy. 22)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 24 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Ionawr 2017
Yn dod i rym 1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 22(1), 22(2)(f), 22(7)(d) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017..
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002.
Diwygio Rheoliadau 2002
2 
Mae Rheoliadau 2002 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli) mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—“
 ystyr “cartref plant diogel” (“secure children’s home”) yw cartref plant, o fewn ystyr y Ddeddf—
(a) sy’n darparu llety at ddibenion cyfyngu ar ryddid; a
(b) y mae person wedi’i gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef;”.
4 
Yn rheoliad 29 (digwyddiadau hysbysadwy), ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad mewn perthynas â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel.”
5 
Ar ôl rheoliad 29, mewnosoder—“
Hysbysu mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel
29A. 

(1) Os bydd unrhyw blentyn sy’n cael ei letya mewn cartref plant diogel yn marw, rhaid i’r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu—
(a) swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;
(b) yr awdurdod lleoli;
(c) yr awdurdod lleol y mae’r cartref plant diogel wedi’i leoli yn ei ardal;
(ch) yr awdurdod iechyd y mae’r cartref plant diogel wedi’i leoli yn ei ardal;
(d) Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth Cymru a Lloegr (“yr OCPh”); ac
(dd) rhiant y plentyn neu’r person a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(2) Rhaid i’r person cofrestredig ganiatáu i’r OCPh ymchwilio i’r farwolaeth drwy—
(a) rhoi i’r OCPh fynediad i—
(i) safle’r cartref; a
(ii) dogfennau a chofnodion y cartref;
(b) caniatáu i’r OCPh fynd â chopïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion o’r safle y ceir mynediad iddynt o dan is-baragraff (a)(ii) ar yr amod bod gan yr OCPh drefniadau diogel i wneud hynny; ac
(c) os byddant yn cydsynio, ganiatáu i’r OCPh gyfweld yn breifat ag unrhyw blant, rhieni (neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant) neu berthnasau, neu bersonau sy’n gweithio yn y cartref.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn—
(a) cynnwys manylion—
(i) amgylchiadau’r farwolaeth;
(ii) y personau, y cyrff neu’r sefydliadau eraill (os oes rhai) y mae’r person cofrestredig wedi’u hysbysu neu’n bwriadu eu hysbysu; a
(iii) unrhyw gamau y mae’r person cofrestredig wedi’u cymryd neu’n bwriadu eu cymryd o ganlyniad i’r farwolaeth;
(b) cael ei wneud neu ei gadarnhau’n ysgrifenedig.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at yr OCPh yn cynnwys person sydd wedi’i benodi gan yr OCPh neu sy’n gweithio ar ei ran at ddibenion ymchwilio o dan baragraff (2).”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2017