
2017 Rhif 509 (Cy. 105)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru
Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 29 Mawrth 2017 
Yn dod i rym 1 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod trwyddedu priodol o dan adran 113(4)(b) o Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 108 o’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 316(6)(b) a (7)(f) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017.
Cymhwyso
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw weithgaredd morol trwyddedadwy y mae Gweinidogion Cymru yn awdurdod trwyddedu priodol ar ei gyfer.
Diwygio
3 
Mae rheoliad 3 (apelau yn erbyn amrywio, atal dros dro neu ddirymu trwydded forol) o Reoliadau Trwyddedu Morol (Apelau Hysbysiadau) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Caiff person y dyroddwyd hysbysiad iddo o dan—
(a) adran 72A(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd pellach a godir os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod codi taliadau priodol); neu
(b) adran 107A(4) o Ddeddf 2009 (blaendaliadau ar gyfrif ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru);
apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “neu baragraff (1A)”;
(c) ym mharagraff (3) ar ôl “mharagraff (1)” mewnosoder “neu baragraff (1A)”.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2017