
2017 Rhif 504 (Cy. 104) (C. 46)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2017
Gwnaed 29 Mawrth 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2017
2 
Y diwrnod penodedig i Ran 6 o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Ebrill 2017 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2017