
2017 Rhif 491 (Cy. 103)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017
Made 28 Mawrth 2017
Coming into force 1 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 166(2)(b) a 167(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 196(6) o’r Ddeddf honno ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
Diwygio’r prif Reoliadau
2 

(1) Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 19—
(a) hepgorer paragraff (1)(c);
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Os yw unrhyw un neu ragor o’r cyrff partneriaeth yn penderfynu gwneud pethau ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid iddynt ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun.”
(3) Yn Atodlen 1, Tabl 2 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol) ar y diwedd mewnosoder—“
Adran 14A o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(cynlluniau yn dilyn asesiadau o anghenion o dan adran 14)”.
(4) Yn Atodlen 2 (swyddogaethau cymorth i deuluoedd), yn Nhabl 1 (swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â phlant), ar ôl yr eitem ar gyfer “Rhannau 3 a 4 o’r Ddeddf”—
(a) yn y golofn gyntaf (y swyddogaeth) mewnosoder—“Rhan 6 o’r Ddeddf (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya)”; a
(b) yn yr ail golofn (rhychwant) mewnosoder—“I’r graddau y maent yn ymwneud â diwallu anghenion am ofal a chymorth plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol a darparu cyngor a chymorth i bobl ifanc o dan y Rhan honno.”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
28 Mawrth 2017