
2017 Rhif 476 (Cy. 99)
Tribiwnlysoedd Ac Ymchwiliadau, Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017
Gwnaed 24 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Mawrth 2017
Coming into force 5 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 i unrhyw Weinidog a awdurdodir, o dan neu yn rhinwedd y darpariaethau statudol a grybwyllir yn adran 42(1) o’r Ddeddf honno neu y cymhwysir yr adran honno iddynt, i adennill costau yr aed iddynt gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy; ac a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cymwys gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, sef pwerau sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag—
(a) ymchwiliad lleol; a
(b) unrhyw berson a benodir gan Weinidogion Cymru i gynnal gweithdrefn gymwys.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “gweithdrefn gymwys” yw gweithdrefn gymwys o fewn yr ystyr sydd i’r term “qualifying procedure” yn adran 303A(1A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
 ystyr “ymchwiliad lleol” (“local inquiry”) yw ymchwiliad y mae gan Weinidogion Cymru yr hawl i adennill eu costau mewn perthynas ag ef o dan neu yn rhinwedd adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (darpariaeth gyffredinol o ran costau ymchwiliadau) neu adran 69(5) o Ddeddf Draenio Tir 1991 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno).
Y swm dyddiol safonol ar gyfer ymchwiliadau lleol a gweithdrefnau cymwys
2 
Y swm dyddiol safonol a ragnodir yn unol ag adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliad lleol ac adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar gyfer gweithdrefn gymwys—
(a) sy’n agor ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2018 yw £508;
(b) sy’n agor ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny a chyn 1 Ebrill 2019 yw £513; ac
(c) sy’n agor ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny yw £518.
Darpariaethau dirymu ac arbed
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a bennir yn y tabl yn yr Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag ymchwiliad lleol neu weithdrefn gymwys yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys iddo neu iddi ac a agorodd cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, ac sy’n parhau ar ôl y dyddiad hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2017
YR ATODLEN
Yr Offerynnau Statudol a ddirymir i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru
Rheoliad 3


Y Rheoliadau a ddirymir Cyfeirnod
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) 1994 1994/642
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) 1996 1996/24
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) 1998  1998/2864
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) 1999 1999/327
Rheoliadau Ymchwiliadau Lleol, Ymchwiliadau Cymwys a Gweithdrefnau Cymwys (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2011 2011/2415 (Cy. 261)