
2017 Rhif 460 (Cy. 98)
Llywodraeth Leol, Cymru
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 21 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Mawrth 2017
Yn dod i rym 5 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20 a 190 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “Nghymru” mewnosoder, “(yn ddarostyngedig i reoliad 4A)”;
(3) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
Rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol
4A. 

(1) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru sy’n —
(a) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b) bwrdd cydgynllunio; neu
(c) awdurdod Parc Cenedlaethol;
 ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor awdurdod perthnasol sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol ac mae’n cynnwys is-bwyllgor;
 mae i “swyddogaeth berthnasol” yr un ystyr a roddir i “relevant function” gan adran 319ZD o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
(2) Heb fod yn hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol ar ôl 5 Mai 2017, ac mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a) gwneud rheolau sefydlog sy’n ymgorffori’r darpariaethau a nodir yn Atodlen 2A, neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith; a
(b) addasu unrhyw rai o’u rheolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau hynny.
(3) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a) cworwm ar gyfer cyfarfod pwyllgor;
(b) aelodaeth pwyllgor”.
(4) Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder —“
ATODLEN 2A
Rheolau sefydlog sy’n ymwneud ag awdurdodau cynllunio lleol
rheoliad 4A
Cworwm
1. 
Ni chaniateir trafod busnes mewn cyfarfod pwyllgor oni bai bod o leiaf hanner cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor yn bresennol, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.
Aelodau dirprwyol
2. 
Ni chaniateir i awdurdod perthnasol benodi un arall o’i aelodau i fod yn aelod o bwyllgor yn absenoldeb yr aelod a benodwyd yn unol â Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017.”
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2017