
2017 Rhif 46 (Cy. 20)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 18 Ionawr 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, a dehongli
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£12.25” rhodder “£12.70”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.05” rhodder “£4.20”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00” rhodder “£200.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00” rhodder “£200.00”;
(v) yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;
(vii) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” rhodder “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 11 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “is-baragraff (2) neu (4)” rhodder “is-baragraff (2), (3A), (4A) neu (5)”;
(ii) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Rhaid cymryd i ystyriaeth incwm a gyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—
(a) yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae enillion o gyflogaeth y ceisydd yn newid er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.”;
(iii) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion o gyflogaeth ceisydd fel enillydd cyflogedig na chyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—
(a) yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.”;
(c) ym mharagraff 13(5)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr)—
(i) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(ii) hepgorer “(lwfansau personol)”;
(iii) yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”;
(d) ym mharagraff 22(b) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc) yn lle “ryddhad treth personol” rhodder “ryddhadau treth personol o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007”;
(e) ym mharagraff 24(1)(b) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”.
4 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn y fersiwn Gymraeg—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£168.70” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£252.30” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£252.30” a “£83.60” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;
(ii) yn y fersiwn Saesneg—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£170.45” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£255.00” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£255.50” a “£84.55” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “o dan adran 70 o DCBNC neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;
(ii) yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iii) yn is-baragraff (7)(d)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iv) yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;
(v) yn is-baragraff (8)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(c) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn y golofn gyntaf—(aa) yn is-baragraff (1)(b)(i), ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;(bb) yn is-baragraff (1)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(ii) yn yr ail golofn—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£24.43” rhodder “£24.78”;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”.
5 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£12.25” rhodder “£12.70”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.05” rhodder “£4.20”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00” rhodder “£200.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00” rhodder “£200.00”;
(v) yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;
(vii) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” rhodder “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 10(2)(a) (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ar ôl “os cafodd y ceisydd unrhyw enillion” mewnosoder “neu os yw’n disgwyl cael swm o enillion”;
(c) ar ôl paragraff 10 mewnosoder—“
Y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
10A. 
Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth ceisydd a amcangyfrifir yn unol â pharagraff 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) a pharagraffau 14 a 15 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) o’r Atodlen hon—
(a) yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.”;
(d) ym mharagraff 15(6)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(ii) hepgorer “(lwfansau personol)”;
(iii) yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”;
(e) ym mharagraff 19(10)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(ii) hepgorer “(lwfansau personol)”;
(iii) yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”;
(f) ym mharagraff 23(b) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc) yn lle “ryddhad treth personol” rhodder “ryddhadau treth personol o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007”;
(g) ym mharagraff 25(1)(b) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig)—
(i) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(ii) hepgorer “(lwfansau personol)”.
6 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£73.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£73.85” ac yn lle “£57.90” rhodder “£58.50”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£73.10” rhodder “£73.85”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£114.85” rhodder “£116.00”;
(b) ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “DCBNC” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;
(ii) yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iii) yn is-baragraff (5)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iv) yn is-baragraff (6) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;
(v) yn is-baragraff (7)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(c) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn y golofn gyntaf—(aa) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;(bb) yn is-baragraff (2)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(ii) yn yr ail golofn—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£32.25” a “£45.95” rhodder “£32.55” a “£46.40” yn y drefn honno;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”;(ee) yn is-baragraff (5) yn lle “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” rhodder “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” yn y drefn honno;
(d) ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£29.05” rhodder “£29.35”;
(e) ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.20” rhodder “£36.55”.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
7 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 8 i 18.
8 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£12.25” rhodder “£12.70”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.05” rhodder “£4.20”;
(c) yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00” rhodder “£200.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00” rhodder “£200.00”;
(e) yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;
(f) yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;
(g) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” rhodder “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” yn y drefn honno.
9 
Ym mharagraff 37 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1) yn lle “is-baragraff (2) neu (4)” rhodder “is-baragraff (2), (3A), (4A) neu (5)”;
(b) ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Rhaid cymryd i ystyriaeth incwm a gyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—
(a) yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae enillion o gyflogaeth y ceisydd yn newid er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.”;
(c) ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—“
(4A) Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion o gyflogaeth ceisydd fel enillydd cyflogedig na chyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—
(a) yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno.”
10 
Ym mharagraff 39(5)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr)—
(a) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(b) hepgorer “(lwfansau personol)”;
(c) yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”.
11 
Ym mharagraff 44(2)(a) (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ar ôl “os cafodd y ceisydd unrhyw enillion” mewnosoder “neu ei fod yn disgwyl cael swm o enillion”.
12 
Ar ôl paragraff 44 mewnosoder—“
Y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
44A. 
Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion wythnosol cyfartalog ceisydd o gyflogaeth wedi ei amcangyfrif yn unol â pharagraff 44 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) a pharagraffau 48 a 49 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;
(b) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu
(c) yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.”
13 
Ym mharagraff 49(6)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(b) hepgorer “(lwfansau personol)”;
(c) yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”.
14 
Ym mharagraff 53(10)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A”;
(b) hepgorer “(lwfansau personol)”;
(c) yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”.
15 
Ym mharagraff 57(b) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc) yn lle “ryddhad treth personol” rhodder “ryddhadau treth personol o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007”.
16 
Ym mharagraff 59(1)(b) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig)—
(a) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;
(b) hepgorer “(lwfansau personol)”.
17 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn y fersiwn Gymraeg—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£168.70” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£252.30” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£252.30” a “£83.60” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;
(ii) yn y fersiwn Saesneg—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£170.45” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£255.00” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£255.50” a “£84.55” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “o dan adran 70 o DCBNC neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;
(ii) yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iii) yn is-baragraff (7)(d)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iv) yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;
(v) yn is-baragraff (8)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(c) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn y golofn gyntaf—(aa) yn is-baragraff (1)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;(bb) yn is-baragraff (1)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(ii) yn yr ail golofn—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£24.43” rhodder “£24.78”;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”.
18 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£73.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£73.85” ac yn lle “£57.90” rhodder “£58.50”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£73.10” rhodder “£73.85”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£114.85” rhodder “£116.00”;
(b) ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—
(i) yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “DCBNC” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;
(ii) yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iii) yn is-baragraff (5)(b)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(iv) yn is-baragraff (6) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;
(v) yn is-baragraff (7)—(aa) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;(bb) ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(c) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn y golofn gyntaf—(aa) yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;(bb) yn is-baragraff (2)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;
(ii) yn yr ail golofn—(aa) yn is-baragraff (1) yn lle “£32.25” a “£45.95” rhodder “£32.55” a “£46.40” yn y drefn honno;(bb) yn is-baragraff (2) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;(cc) yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;(dd) yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”;(ee) yn is-baragraff (5) yn lle “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” rhodder “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” yn y drefn honno;
(d) ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£29.05” rhodder “£29.35”;
(e) ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.20” rhodder “£36.55”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Ionawr 2017