
2017 Rhif 453 (Cy. 96)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017
Gwnaed 20 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Mawrth 2017
Yn dod i rym 1 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori mewn perthynas â rheoliad 6 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
2 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar ôl “Tenby South”, mewnosoder “Traeth Glan Don Beach”.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2017