
2017 Rhif 41 (Cy. 17)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2017
Gwnaed 23 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 25 Ionawr 2017
Yn dod i rym 15 Chwefror 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) ac 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1(1) a 4 o Atodlen 2 iddi ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 15 Chwefror 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio’r Rheoliadau
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o “managing agent” hepgorer y gair “and”;
(b) ar ôl y diffiniad o “managing agent” mewnosoder—“
 “premium” means an increase in the amount of council tax payable in respect of a dwelling as a result of a determination made by the billing authority under section 12A(1) or 12B(1) of the Act; and”.
(3) Yn y pennawd i Ran IV, yn lle “Discounts” rhodder “Discounts and Premiums”.
(4) Yn rheoliad 14 (canfod hawl i gael disgownt)—
(a) yn y pennawd ar ôl “Ascertainment of entitlement to discount” mewnosoder “or liability to premium”;
(b) ar ôl y gair “discount” yn y ddau le yr ymddengys mewnosoder “or premium”.
(5) Yn rheoliad 15 (tybiaethau)—
(a) yn y pennawd ar ôl “Assumptions as to discount” mewnosoder “or premium”;
(b) ar ôl y gair “discount” ym mhob lle yr ymddengys ym mharagraffau (1) a (2) mewnosoder “or premium”.
(6) Yn rheoliad 16 (cywiro tybiaethau ynghylch disgownt)—
(a) yn y pennawd ar ôl “Correction of discount” mewnosoder “or premium”;
(b) ym mharagraff (1) ar ôl y gair “discount” ym mhob lle yr ymddengys mewnosoder “or premium”.
(7) Ym mharagraff 10 o Atodlen 1 (cynlluniau rhandaliadau’r dreth gyngor) ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—“
(ea) the notice was so served on the assumption that, as regards any day in the period to which the notice relates, the person would be or was liable to a premium and was not or has ceased to be so liable or was or is liable to a premium of a smaller or larger amount than had been assumed;
(eb) the notice was so served on the assumption that, as regards any day in the period to which the notice relates, the person was not or would not be liable to a premium and was or is so liable;”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2017