
2017 Rhif 357 (Cy. 87)
Caffael Tir, Cymru
Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 8 Mawrth 2017
Yn dod i rym 6 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7 a 15 o Ddeddf Caffael Tir 1981 a pharagraff 6 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.
(2) Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad ganddynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.
Diwygiadau i Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol)—
(a) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(4A) At ddibenion adran 15(4)(e) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 1 o Ffurf 9A.
(4B) At ddibenion adran 15(4)(f) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 2 o Ffurf 9A.”;
(b) ym mharagraff (5) yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(5)” ac yn lle “pharagraff 6” rhodder “pharagraff 6(5)”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a) yn y cynnwys, ar ôl yr eitem ar gyfer Ffurf 9, mewnosoder—“
Ffurf 9A Ffurf ar ddatganiad o effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ac ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod”;
(b) ar ôl Ffurf 9, mewnosoder y ffurf yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(c) yn lle Ffurf 10, rhodder y ffurf yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(d) yn lle Ffurf 11, rhodder y ffurf yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2017
YR ATODLEN
RHAN 1
Reheoliad 2(3)(b)
RHAN 2
Rheoliad 2(3)(c)
RHAN 3
Rheoliad 2(3)(d)