
2017 Rhif 25 (Cy. 9)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 16 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Ionawr 2017
Yn dod i rym 10 Chwefror 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9)(b), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freinir bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 10 Chwefror 2017 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2017 ymlaen.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015
2 
Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015, yn lle “31 Mawrth 2017” rhodder “31 Mawrth 2018”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2017 