
2017 Rhif 200 (Cy. 55)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017
Gwnaed 23 Chwefror 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 27 Chwefror 2017
Yn dod i rym 31 Mawrth 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 42(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2017.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
 ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw gofal a thriniaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;
 ystyr “gwasanaethau deintyddol preifat” (“private dental services”) yw gwasanaethau deintyddol ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “gwasanaethau proffesiynol perthnasol” (“relevant professional services”) yw’r ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol yn unol â chwmpas ymarfer llawn proffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio yn unol â phresgripsiwn gan ddeintydd ond nid yw’n cynnwys—
(a) darparu gwasanaethau gwynnu dannedd gan hylenydd deintyddol neu therapydd deintyddol, a
(b) darparu a chynnal a chadw dannedd gosod i gleifion â dannedd gan dechnegydd deintyddol clinigol;
 ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf Deintyddion 1984;
 ystyr “practis deintyddol preifat” (“private dental practice”) yw ymgymeriad sy’n darparu neu’n cynnwys darparu—
(a) gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd, neu
(b) gwasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—
(a) hylenydd deintyddol;
(b) therapydd deintyddol; neu
(c) technegydd deintyddol clinigol.
Cymhwyso Rhan 2 o’r Ddeddf i bersonau sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat
3 

(1) Mae person sy’n cynnal neu’n rheoli practis deintyddol preifat wedi ei ragnodi at ddibenion adran 42(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ran 2 o’r Ddeddf yn gymwys i bersonau a ragnodir gan baragraff (1) a, phan fo’n berthnasol, gyda’r addasiadau a bennir yn yr Atodlen—
(a) adran 12(2);
(b) adran 14(1)(d);
(c) adran 15(3) a (5);
(d) adran 16(1) a (3);
(e) adran 22;
(f) adran 23(1) i (3);
(g) adran 25(1);
(h) adran 30ZA;
(i) adran 30ZB;
(j) adran 30A(1), (3) a (4);
(k) adran 33;
(l) adran 34;
(m) adran 35;
(n) adran 36(3) a (4).
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
23 Chwefror 2017
YR ATODLEN
Addasiadau i Ran 2 o’r Ddeddf
Rheoliad 3
Addasu adran 14 o’r Ddeddf
1 
Yn adran 14(1) o’r Ddeddf (canslo cofrestriad), yng ngeiriau agoriadol yr is-adran, yn lle “or agency” rhodder “, agency or private dental practice”.
Addasu adran 16 o’r Ddeddf
2 
Yn adran 16(1) o’r Ddeddf (rheoliadau ynghylch cofrestru), yn lle “or agencies” rhodder “, agencies or private dental practices”.
Addasu adran 22 o’r Ddeddf
3 
Yn adran 22 o’r Ddeddf (rheoleiddio sefydliadau ac asiantaethau)—
(a) yn is-adran (1), yn lle “and agencies” rhodder “, agencies or private dental practices”;
(b) yn is-adran (2)—
(i) ym mharagraffau (a), (f), (i) a (j), yn lle “or agency” rhodder “, agency or private dental practice”;
(ii) ym mharagraffau (b) ac (c), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”;
(iii) ym mharagraff (d), ar ôl “domiciliary care agency” mewnosoder “, or private dental practice”;
(iv) ym mharagraff (g), ar ôl “agency” mewnosoder “or a private dental practice”;
(c) yn is-adran (5)(b) ac (c), ar ôl “establishment” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”;
(d) yn is-adran (7)—
(i) yng ngeiriau agoriadol yr is-adran, ar ôl “agencies” mewnosoder “or private dental practices”;
(ii) ym mharagraffau (a) a (d), ar ôl “agencies” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practices”;
(iii) ym mharagraffau (e), (f), (g) a (h), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”;
(iv) ym mharagraff (j)—(aa) ar ôl “or agency” mewnosoder “or private dental practice”; a(bb) ar ôl “the agency” mewnosoder “or private dental practice”.
Addasu adran 23 o’r Ddeddf
4 
Yn adran 23(1) o’r Ddeddf (safonau gofynnol cenedlaethol), ar ôl “agencies” mewnosoder “or private dental practices”.
Addasu adran 30ZA o’r Ddeddf
5 
Yn adran 30ZA(2)(a) o’r Ddeddf (hysbysiadau cosb), yn lle “or agency” rhodder “, agency or private dental practice”.
Addasu adran 30A o’r Ddeddf
6 
Yn adran 30A(1) o’r Ddeddf (hysbysu am faterion sy’n ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), ar ôl “subsection (6)” mewnosoder “or a private dental practice”.
Addasu adran 33 o’r Ddeddf
7 
Yn adran 33(1) o’r Ddeddf (datganiadau blynyddol), ar ôl “agency” mewnosoder “or private dental practice”.
Addasu adran 34 o’r Ddeddf
8 
Yn adran 34 o’r Ddeddf (datodwyr etc.)—
(a) yn is-adran (1)(b), ar ôl “agency” mewnosoder “or private dental practice”; a
(b) yn is-adran (3), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”.
Addasu adran 35 o’r Ddeddf
9 
Yn adran 35 o’r Ddeddf (marwolaeth person cofrestredig), ar ôl “agency” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “or private dental practice”.