
2017 Rhif 168 (Cy. 49)
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed 15 Chwefror 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Chwefror 2017
Yn dod i rym 1 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sydd wedi eu breinio bellach ynddynt hwy, ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol yn unol ag adran 9(5) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub yng Nghymru.
Diwygio’r Gorchymyn
2 

(1) Mae Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Argyfyngau) (Cymru) 2007 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 3 mewnosoder—“
Achub a diogelu yn achos argyfyngau sy’n ymwneud â llifogydd a dyfroedd mewndirol
3. 

(1) Rhaid i awdurdod tân ac achub ddarparu yn ei ardal, i’r graddau y mae’n ystyried ei bod yn rhesymol gwneud hynny, ar gyfer—
(a) achub pobl, neu eu diogelu rhag niwed difrifol os digwydd argyfwng sy’n ymwneud â llifogydd; a
(b) achub pobl os digwydd argyfwng sy’n ymwneud â dyfroedd mewndirol.
(2) Mae’r ddyletswydd ym mharagraff (1) yn gymwys i argyfwng sy’n dod o fewn adran 58(a) o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.
(3) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “dyfroedd mewndirol” (“inland water”) yw—
(a) afonydd, nentydd a chamlesi; a
(b) llynnoedd, cronfeydd dŵr a chwareli llawn dŵr.”ystyr “llifogydd” (“flooding”) yw unrhyw achos pan fo tir nad yw o dan ddŵr fel arfer yn cael ei orchuddio â dŵr.”
(3) Yn erthygl 4—
(a) yn y geiriau cyflwyno, yn lle “neu 3” rhodder “, 3 neu 3A”;
(b) ym mharagraff (a) ar ôl “gwasanaethau” mewnosoder “, y cyfarpar”.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2017