
2017 Rhif 154 (Cy. 45)
Addysg, Cymru
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017
Gwnaed 14 Chwefror 2017
Yn dod i rym 16 Chwefror 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 5 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 47(2) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 16 Chwefror 2017.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg y parheir â’i fodolaeth gan adran 2 o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014;ystyr “y meini prawf achredu” (“the accreditation criteria”) yw’r meini prawf ar gyfer yr achrediad neu ar gyfer tynnu achrediad yn ôl a bennir gan Weinidogion Cymru o dan reoliadau a wneir o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.
Swyddogaethau ychwanegol
3 

(1) Mae’r Cyngor i gael y swyddogaethau o—
(a) achredu cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol (“y Gwasanaeth”);
(b) monitro cydymffurfedd cyrsiau neu raglenni achrededig hyfforddiant cychwynnol athrawon â’r meini prawf achredu;
(c) tynnu achrediad cyrsiau neu raglenni hyfforddiant cychwynnol athrawon yn ôl; a
(d) codi ffïoedd mewn cysylltiad â darparu’r Gwasanaeth.
(2) Ni chaiff y ffïoedd a godir gan y Cyngor yn unol â pharagraff (1)(d) fod yn fwy na chost darparu’r Gwasanaeth.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2017