
2017 Rhif 152 (Cy. 44) (C. 16)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017
Gwnaed 14 Chwefror 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(c) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 24 Chwefror 2017
2 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 24 Chwefror 2017—
(a) adran 77 (ffioedd am fonitro, amrywio etc. drwyddedau morol) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
(b) adran 78 (darpariaeth bellach ynghylch talu ffioedd) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau; a
(c) adran 79 (apelio yn erbyn amrywio etc. drwydded forol am beidio â thalu ffi neu flaendal) i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Chwefror 2017