
2017 Rhif 1218 (Cy. 291)
Landlord A Thenant, Cymru
Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017
Gwnaed 5 Rhagfyr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Rhagfyr 2017
Yn dod i rym 5 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2017, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 5 Ionawr 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
Asesu gallu cynhyrchiol tir
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2017, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2016 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2017, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2017
YR ATODLEN
Unedau cynhyrchu rhagnodedig a phennu incwm blynyddol net
Erthygl 2


Colofn 1Defnydd ffermio Colofn 2Uned gynhyrchu Colofn 3Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 450
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch -111
ar dir arall buwch -137
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -72
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 87
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog -27
ar dir arall mamog -6
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 4.2
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 270
moch porc y pen 7.8
moch torri y pen 11
moch bacwn y pen 13.9
Dofednod: ieir dodwy aderyn 4.4
brwyliaid aderyn 0.8
cywennod ar ddodwy aderyn 0.3
Tyrcwn Nadolig aderyn 9.6
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar -48
Ffa hectar -152
Rêp had olew hectar 32
Pys sych hectar 150
Tatws: cynnar cyntaf hectar 3,690
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 3,440
Betys siwgr hectar 280
Gwenith hectar 100
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 2,450
Ffrwythau meddal hectar 7,310
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2016, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 tir dan anfantais ddifrifol hectar 112.40
tir dan anfantais hectar 66.53
pob tir arall hectar 47.31

