
2017 Rhif 1142 (Cy. 284)
Ystadegau Swyddogol, Cymru
Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017
Gwnaed 22 Tachwedd 2017
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 6(1)(b) a (2) o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Yn unol ag adran 6(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Bwrdd Ystadegau.

Yn unol ag adran 65(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 23 Tachwedd 2017.
Dirymu
2 
Mae Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 wedi ei ddirymu.
Ystadegau swyddogol
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r ystadegau a gynhyrchir, neu sydd i gael eu cynhyrchu, gan y personau a restrir yn yr Atodlen yn ystadegau swyddogol at ddiben Rhan 1 o Ddeddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
(2) Nid yw ystadegau swyddogol yn y Gorchymyn hwn yn cynnwys ystadegau sydd â’r ystyr a roddir yn adran 6(1)(a) o’r Ddeddf honno.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cy
22 Tachwedd 2017
YR ATODLEN
Erthygl 3


 Awdurdod Cyllid Cymru
 Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
 Comisiynydd Plant Cymru
 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
 Comisiynydd y Gymraeg
 Corff Adnoddau Naturiol Cymru
 Cyngor Celfyddydau Cymru
 Cyngor Chwaraeon Cymru
 Cyllid Cymru
 Cymwysterau Cymru
 Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
 Gofal Cymdeithasol Cymru
 Hybu Cig Cymru
 Partneriaeth Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre
 Y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys
 Trafnidiaeth Cymru
 Uned Ddata Cymru
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru
 Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
