
2017 Rhif 1026 (Cy. 264)
Dŵr, Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017
Gwnaed 24 Hydref 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 31 Hydref 2017
Yn dod i rym 1 Ionawr 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 10(1) o Ddeddf Dŵr 2003.
Enwi a chymhwyso
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2017 a daw i rym ar 1 Ionawr 2018.
Dirymu Gorchmynion
2 

(1) Mae’r Gorchmynion yn Rhan 1 o’r Atodlen wedi eu dirymu.
(2) Mae’r Gorchmynion yn Rhan 2 o’r Atodlen wedi eu dirymu i’r graddau y maent yn ymwneud â dyfroedd mewndirol neu strata tanddaearol yng Nghymru.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2017
YR ATODLEN
Erthygl 2
RHAN 1
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Gwynedd (Eithriadau i Reoli) 1965
 Gorchymyn De-orllewin Cymru (Eithriadau i Reoli) 1965
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Morgannwg (Eithriadau i Reoli) 1966
 Gorchymyn Awdurdod Afon Wysg (Eithriadau i Reoli) 1973

RHAN 2
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Dyfrdwy a Chlwyd (Eithriadau i Reoli) 1966
 Gorchymyn Awdurdod Afon Hafren (Eithriadau i Reoli) 1967
 Gorchymyn Awdurdod Afonydd Mersi a Weaver (Eithriadau i Reoli) 1968.
