
2017 Rhif 1022 (Cy. 260)
Trethi, Cymru
Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017
Gwnaed 23 Hydref 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 26 Hydref 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 14(1), 27(7)(a), 101(3) a (4), 163(1) a (2), a 189(1)(b) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.
RHAN 1 Cyffredinol
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018 ac eithrio rheoliadau yn Rhannau 1 a 2 sy’n dod i rym ar 21 Tachwedd 2017.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf CRhT” (“the TCM Act”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;
 ystyr “derbynnydd yr hysbysiad” (“notice recipient”) yw’r trethdalwr y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 86 o’r Ddeddf CRhT neu drydydd parti y rhoddir hysbysiad iddo o dan adran 87 neu 89 o’r Ddeddf CRhT, neu berson a awdurdodir i weithredu ar ei ran;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw diwrnod nad yw’n ddiwrnod busnes o fewn yr ystyr a roddir i “non-business days” yn adran 92 o Ddeddf Biliau Cyfnewid 1882;
 ystyr “dogfen” (“document”) yw gwybodaeth, dogfen neu ran o ddogfen; ac
 ystyr “dogfen y mae anghydfod yn ei chylch” (“document in dispute”) yw dogfen y mae anghydfod yn ei chylch rhwng ACC a pherson sydd wedi cael hysbysiad gwybodaeth, o ran a yw’r ddogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
RHAN 2 ACC
Dirprwyo swyddogaethau
3 
Mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi ei ragnodi fel person y caiff ACC ddirprwyo iddo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi o dan adran 14(1) o’r Ddeddf CRhT.
Pennu’r cyfnod cynllunio
4 
Mae’r cyfnod sy’n dechrau ag 1 Ebrill 2018 ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2019 wedi ei ragnodi fel y cyfnod cynllunio cyntaf at ddibenion adran 27(7)(a) o’r Ddeddf CRhT.
RHAN 3 Cyfraddau llog
Ystyr “cyfradd Banc Lloegr”
5 

(1) Yn y Rhan hon, “cyfradd Banc Lloegr” sy’n gymwys ar gyfer diwrnod yw’r gyfradd banc swyddogol a gyhoeddwyd ddiwethaf yng nghyfarfod Pwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a gynhaliwyd cyn y diwrnod hwnnw.
(2) Ond pan fo diwrnod yn dod o fewn 3 diwrnod gwaith i gyfarfod y gwnaed y cyhoeddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ynddo, ystyr “cyfradd Banc Lloegr” ar gyfer y diwrnod hwnnw yw’r gyfradd a bennir o dan y paragraff hwnnw fel pe na bai’r cyfarfod hwnnw wedi ei gynnal.
Cyfradd llog taliadau hwyr
6 
Y gyfradd llog taliadau hwyr at ddibenion adran 157 o’r Ddeddf CRhT yw’r ganran y flwyddyn a ganfyddir drwy ddefnyddio’r fformiwla a ganlyn—cyfradd Banc Lloegr + 2.5
Cyfradd llog ad-daliadau
7 
Y gyfradd llog ad-daliadau at ddibenion adran 161 o’r Ddeddf CRhT yw pa un bynnag o’r canlynol sydd uchaf—
(a) 0.5% y flwyddyn; a
(b) cyfradd Banc Lloegr.
RHAN 4 Datrys anghydfodau o ran a yw dogfen yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol
Cymhwyso’r Rhan hon
8 
Mae’r Rhan hon yn gymwys—
(a) pan fo ACC wedi dyroddi hysbysiad gwybodaeth i berson ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen—
(i) yn ystod gohebiaeth; neu
(ii) yn ystod archwiliad o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT, a
(b) pan fo anghydfod rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad o ran a yw dogfen y gofynnwyd amdani yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol.
Gofyniad i ddarparu gwybodaeth a chyflwyno dogfennau nad oes anghydfod yn eu cylch
9 
Nid oes dim yn y Rhan hon yn effeithio ar—
(a) unrhyw ofyniad o dan hysbysiad gwybodaeth i ddarparu gwybodaeth neu gyflwyno dogfen nad oes anghydfod yn ei chylch; na
(b) y pwerau o dan Ran 4 o’r Ddeddf CRhT i archwilio mangreoedd ac eiddo arall.
Gweithdrefn pa fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir mewn gohebiaeth
10 

(1) Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(i).
(2) Ar ôl cael hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a) pennu mewn rhestr bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch, ynghyd â disgrifiad o natur a chynnwys y ddogfen honno; a
(b) cyflwyno’r rhestr honno i ACC erbyn y dyddiad a roddir yn yr hysbysiad gwybodaeth ar gyfer cyflwyno’r ddogfen.
(3) Ond nid yw disgrifiad o’r ddogfen yn ofynnol pan fyddai disgrifiad o’r fath yn arwain at anghydfod dros fraint.
(4) O fewn 20 diwrnod gwaith i gael y rhestr y cyfeirir ati ym mharagraff (2), rhaid i ACC hysbysu derbynnydd yr hysbysiad am unrhyw ddogfen ar y rhestr y mae’n ei gwneud yn ofynnol ei chyflwyno ac y mae’n ystyried ei bod yn anfreintiedig.
(5) Ar ôl cael yr hysbysiad o dan baragraff (4), rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a) cyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n cytuno ei bod yn anfreintiedig; a
(b) i’r graddau bod anghydfod yn parhau ynghylch statws unrhyw ddogfen, gwneud cais i’r tribiwnlys.
(6) Rhaid i gais o dan baragraff (5)(b)—
(a) mynd gyda chopi o’r dogfennau y mae anghydfod yn parhau yn eu cylch; a
(b) cael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol y mae derbynnydd yr hysbysiad ac ACC i gytuno arno, ond mewn unrhyw achos, yn ddim hwyrach na 20 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad a roddir gan ACC o dan baragraff (4).
Gweithdrefn pan fo anghydfod ynghylch hysbysiad gwybodaeth a roddir yn ystod archwiliad eiddo
11 

(1) Mae’r weithdrefn a ganlyn yn gymwys pan fo anghydfod yn dod o fewn rheoliad 8(a)(ii).
(2) Ar ôl cael yr hysbysiad gwybodaeth, rhaid i dderbynnydd yr hysbysiad—
(a) dangos i ACC bob dogfen sy’n ofynnol o dan yr hysbysiad gwybodaeth y mae anghydfod yn ei chylch; a
(b) rhoi unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch mewn cynhwysydd priodol sy’n rhwystro’r cynnwys rhag bod yn weladwy.
(3) Rhaid i’r cynhwysydd—
(a) cael ei selio, ei labelu a’i lofnodi gan dderbynnydd yr hysbysiad;
(b) cael ei gydlofnodi gan ACC; ac
(c) cael ei gadw gan ACC.
(4) O fewn 42 diwrnod gwaith i gael y cynhwysydd, rhaid i ACC—
(a) danfon y cynhwysydd i’r tribiwnlys gyda’r sêl yn gyflawn ynghyd â chais i’r tribiwnlys; a
(b) anfon copi o’r cais hwnnw at dderbynnydd yr hysbysiad.
Cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth
12 
Pan fo derbynnydd yr hysbysiad yn cydymffurfio â’r weithdrefn a nodir yn y Rhan hon, mae’r person hwnnw i gael ei drin fel ei fod wedi cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch hyd nes bod y tribiwnlys yn dyfarnu ar statws y ddogfen neu hyd nes y deuir i gytundeb o dan reoliad 14.
Canfyddiad y tribiwnlys
13 

(1) Pan wneir cais o dan reoliad 10(5)(b) neu 11(4), rhaid i’r tribiwnlys—
(a) datrys yr anghydfod drwy gadarnhau a yw’r ddogfen yn freintiedig ai peidio, ac i ba raddau; a
(b) cyfarwyddo pa ran neu rannau o ddogfen (os oes rhai) y mae rhaid eu datgelu.
(2) Rhaid i’r tribiwnlys sicrhau nad yw unrhyw ddogfen y mae anghydfod yn ei chylch yn cael ei datgelu’n amhriodol i unrhyw berson wrth aros am ddyfarniad y tribiwnlys.
Datrys anghydfodau drwy gytundeb
14 
Caniateir i anghydfod sy’n dod o fewn y Rhan hon gael ei ddatrys ar unrhyw adeg drwy gytundeb rhwng ACC a derbynnydd yr hysbysiad, naill ai yn ysgrifenedig neu fel arall.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2017