
2016 Rhif 98 (Cy. 47)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Yn dod i rym 1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 19(4) a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

Yn unol ag adran 74(5) o’r Mesur, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad cyn iddo gael ei wneud.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoleiddio Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2016;
 ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010; ac
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.
Diwygio Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010
3 
Yn adran 19 o’r Mesur (ystyr “gwarchod plant” a “gofal dydd i blant”)—
(a) yn is-adran (2), yn lle “wyth” rhodder “ddeuddeng”;
(b) yn is-adran (3), yn lle “wyth” rhodder “ddeuddeng”.
Diwygio’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007
4 
Yn erthygl 5(3)(b) (gofal plant cymwys) o’r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 yn lle “wyth mlwydd oed” rhodder “deuddeng oed”.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
5 
Yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 yn lle “o dan wyth oed” rhodder “o dan ddeuddeng oed”.
Darpariaeth drosiannol
Gwarchodwyr plant
6 
Mae’r darpariaethau yn erthyglau 7 i 9 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru’n warchodwr plant yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2 o’r Mesur.
Cofrestru
7 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sydd wedi ei gofrestru’n warchodwr plant i blant o dan wyth oed i gael ei drin ar y dyddiad trosglwyddo ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi gwneud cais i gofrestru i ofalu am blant o dan ddeuddeng oed a bod y cais hwnnw wedi ei ganiatáu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson a oedd, cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi gofyn i Weinidogion Cymru ganslo ei gofrestriad yn warchodwr plant o dan Ran 2 o’r Mesur.
Amodau cofrestru
8 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn darparu gwasanaeth gwarchod plant o dan amgylchiadau a fyddai, pe bai’n cael ei ddarparu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn groes i amodau cofrestru’r person hwnnw a osodwyd o dan adran 29 o’r Mesur oherwydd effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn.
(2) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru i amrywio amodau cofrestru cyn y dyddiad trosglwyddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais hwnnw o fewn cyfnod o bum mis i’r dyddiad trosglwyddo.
(3) Yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)—
(a) nid yw person sydd wedi cyflwyno cais i amrywio amodau cofrestru yn agored i’w erlyn o dan adran 29(4) o’r Mesur pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn;
(b) nid yw adran 31(2)(b) o’r Mesur yn gymwys pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 7(1) o’r Gorchymyn hwn.
Ceisiadau i gofrestru: ceisiadau nad ydynt wedi eu penderfynu
9 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gwneud cais i gofrestru’n warchodwr plant ond nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais y person.
(2) Mae gan gais a wneir cyn y dyddiad trosglwyddo yr un effaith â chais a wneir ar y dyddiad trosglwyddo.
Darparwyr gofal dydd
10 
Mae’r darpariaethau yn erthyglau 11 i 13 o’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gofal dydd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo gan Weinidogion Cymru o dan Ran 2 o’r Mesur.
Cofrestru
11 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae person sydd wedi ei gofrestru’n ddarparwr gofal dydd i blant o dan wyth oed i gael ei drin ar y dyddiad trosglwyddo ac ar ôl y dyddiad hwnnw fel pe bai wedi gwneud cais i gofrestru i ddarparu gofal i blant o dan ddeuddeng oed a bod y cais hwnnw wedi ei ganiatáu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn cysylltiad â pherson a oedd, cyn y dyddiad trosglwyddo, wedi gofyn i Weinidogion Cymru ganslo ei gofrestriad yn ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.
Amodau cofrestru
12 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn darparu gofal dydd i blant o dan amgylchiadau a fyddai, pe bai’n cael ei ddarparu ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw, yn groes i amodau cofrestru’r darparwr gofal dydd hwnnw a osodwyd o dan adran 29 o’r Mesur oherwydd effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn.
(2) Pan fo person y mae paragraff (1) yn gymwys iddo yn cyflwyno cais i Weinidogion Cymru i amrywio amodau cofrestru cyn y dyddiad trosglwyddo, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais hwnnw o fewn cyfnod o bum mis i’r dyddiad trosglwyddo.
(3) Yn ystod y cyfnod a bennir ym mharagraff (2)—
(a) nid yw person sydd wedi cyflwyno cais i amrywio amodau cofrestru yn agored i’w erlyn o dan adran 29 o’r Mesur pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn; a
(b) nid yw adran 31(2)(b) o’r Mesur yn gymwys pan fo’r amodau wedi eu torri o ganlyniad i effaith erthygl 11(1) o’r Gorchymyn hwn.
Ceisiadau i gofrestru: ceisiadau nad ydynt wedi eu penderfynu
13 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person, cyn y dyddiad trosglwyddo, yn gwneud cais i gofrestru’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur ond nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar gais y person.
(2) Mae gan gais a wneir cyn y dyddiad trosglwyddo yr un effaith â chais a wneir ar y dyddiad trosglwyddo.
Atal dros dro: gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd
14 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—
(a) yn cael ei atal dros dro gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 40 o Reoliadau 2010;
(b) yn cael ei atal dros dro yn wirfoddol o dan reoliad 46 o Reoliadau 2010.
(2) Nid yw gweithredu erthyglau 7(1) a 11(1) yn y Gorchymyn hwn yn effeithio ar atal cofrestriad person dros dro.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr