
2016 Rhif 970 (Cy. 239)
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 6 Hydref 2016
Yn dod i rym 7 Hydref 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 144(8)(c) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo yn unol ag adran 144(8ZA) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Hydref 2016.
Diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 1998
2 
Ym mharagraff 4 o Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, yn lle “Local Government Boundary Commission for Wales” rhodder “Local Democracy and Boundary Commission for Wales”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2016