
2016 Rhif 964 (Cy. 237)
Cartrefi Symudol, Cymru
Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016
Gwnaed 28 Medi 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Medi 2016
Yn dod i rym 31 Hydref 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 58(3)(a) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
RHAN 1
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Hydref 2016.
RHAN 2
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007
2 

(1) Mae Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran B (swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i’r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy))—
(a) yng ngholofn (1) y Tabl ar ôl “Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy’’n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau”, mewnosoder “neu safle cartrefi symudol”; a
(b) yng ngholofn (2) y Tabl, ar ôl “Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62)" mewnosoder “ac adran 7(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (dccc 6)”.
Diwygio Rheoliadau Taliadau Sŵn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001
3 

(1) Mae Rheoliadau Taliadau Sŵn Priffyrdd (Cartrefi Symudol) (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “cartref symudol”—
(a) hepgorer paragraff (a);
(b) ar ddiwedd paragraff (b) yn lle “;” rhodder “, neu”; ac
(c) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) cartref symudol o fewn ystyr adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;”.
(3) Yn rheoliad 7(1)(a) (cartrefi cymwys)—
(a) yn lle “carafán, wedi’i lleoli’n” rhodder “cartref symudol, wedi’i leoli’n”; a
(b) yn lle “adran 1(2) o Ddeddf Safleoedd Carafanau 1968” rhodder “adran 2(2) o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013”.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995
4 
Yn Rhan 5 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995, o dan Ddosbarth B (datblygu a ganiateir) ar ôl “the 1960 Act” mewnosoder “and the Mobile Homes (Wales) Act 2013”.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
28 Medi 2016