
2016 Rhif 845 (Cy. 214)
Bwyd, Cymru
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 16 Awst 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 19 Awst 2016
Yn dod i rym 15 Hydref 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at Atodiad i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig i gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Cynhaliwyd ymgynghoriad fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Hydref 2016.
Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliadau’r Gymuned” yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”; a
(b) yn y diffiniad sy’n dechrau â “mae i “Penderfyniad 2006/766””—
(i) yn lle ““Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”)” rhodder ““Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375 ”)”; a
(ii) hepgorer ““Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”)”.
(3) Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE)—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), yn lle “Rheoliad 2075/2005” rhodder “Rheoliad 2015/1375”;
(b) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”);
(c) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”); a
(d) ar ddiwedd yr Atodlen ychwaneger y diffiniad a ganlyn—“
 “ystyr “Rheoliad 2015/1375” (“Regulation 2015/1375”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1375 sy’n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig.”
(4) Yn Atodlen 2 (darpariaethau Cymunedol penodedig)—
(a) yng ngholofn gyntaf y cofnod olaf, yn lle “Reoliad 2073/2005” rhodder “Reoliad 2015/1375”; a
(b) yn ail golofn y cofnod olaf, yn lle’r testun presennol rhodder y testun a ganlyn—“
 Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnes bwyd daliadau y cydnabyddir yn swyddogol eu bod yn cymhwyso amodau tai a reolir roi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw ofyniad o Atodiad IV i Reoliad 2015/1375 nad yw bellach yn cael ei gyflawni neu unrhyw newid arall a allai effeithio ar statws Trichinella daliadau.”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru.
16 Awst 2016