
2016 Rhif 843 (Cy. 213)
Y Diwydiant Dŵr, Cymru A Lloegr
Ffioedd A Thaliadau, Cymru A Lloegr
Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwad Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) 2016
Gwnaed 9 Awst 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Awst 2016
Yn dod i rym 8 Medi 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 86ZA(2) a (4) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Enwi a chychwyn
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ansawdd a Chyflenwad Dŵr (Ffioedd) (Ymgymerwyr sy’n Gyfan Gwbl neu’n Bennaf yng Nghymru) 2016 a daw i rym ar 8 Medi 2016.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir o dan adran 86(1) o Ddeddf 1991 (aseswyr gorfodi ansawdd dŵr);
 ystyr “cyflenwr dŵr perthnasol” (“relevant water supplier”) yw—
(a) cwmni a benodwyd yn ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru; neu
(b) cwmni sy’n ddeiliaid trwydded cyflenwi dŵr o fewn ystyr adran 17A o Ddeddf 1991 (trwyddedu cyflenwyr dŵr) sy’n defnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru;
 ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.
Ffioedd
3 

(1) Caiff y Prif Arolygydd Dŵr Yfed godi ffi ar gyflenwr dŵr perthnasol, a honno’n daladwy pan geir anfoneb ar ei chyfer, am arfer y swyddogaethau yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen gan arolygydd.
(2) Pennir y ffi a godir o dan baragraff (1) yn unol â’r ffi a restrir mewn perthynas â’r swyddogaeth honno yng ngholofn 2 o’r tabl yn yr Atodlen.
(3) Os arferir swyddogaeth a bennir ym mharagraffau (b), (c) neu (d) yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen gan fwy nag un arolygydd, rhaid agregu’r amser a dreuliwyd gan bob arolygydd at ddiben cyfrifo swm y ffi sy’n daladwy.
Dirymu ac arbedion
4 

(1) Mae Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Cyflenwad Dŵr ac Ansawdd Dŵr) (Ffioedd Arolygu) 2012 (“Gorchymyn 2012”) wedi ei ddirymu.
(2) Mae Gorchymyn 2012 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag arfer swyddogaeth a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw gan arolygydd cyn 8 Medi 2016.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Awst 2016
YR ATODLEN
Y FFIOEDD AM ARFER SWYDDOGAETHAU O DAN ADRAN 86 O DDEDDF Y DIWYDIANT DŴR 1991
Erthygl 3

Tabl
1Y Swyddogaeth 2Y Ffi

(a) Gwirio bod y trefniadau samplu a dadansoddi ar gyfer samplau dŵr a gesglir gan y cyflenwr dŵr perthnasol yn cydymffurfio â’r canlynol——
(i) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;
(ii) adran 68 o Ddeddf 1991 (dyletswyddau ymgymerwyr dŵr a thrwyddedeion chyflenwyr dŵr mewn cysylltiad ag ansawdd dŵr); a
(iii) unrhyw ofynion am ddata sampl y mae’n ofynnol eu darparu o dan adran 202 o Ddeddf 1991 (dyletswyddau ymgymerwyr i roi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol). £55 am bob grŵp o 100 o ganlyniadau samplau dŵr a geir ac a wirir.

(b) Gwirio—
(i) bod trefniadau rheoli cyflenwad dŵr y cyflenwr dŵr perthnasol yn cydymffurfio â’r canlynol—
(aa) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;
(bb) adran 37 o Ddeddf 1991;
(cc) adran 68 o Ddeddf 1991; a
(ii) bod y cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth am y trefniadau hyn o dan adran 202 o Ddeddf 1991. £65 am bob awr gyflawn y mae arolygydd yn arfer y swyddogaeth.

(c) Mewn perthynas â chyflenwr dŵr perthnasol—
(i) ymchwilio i ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall pan fo unrhyw un o’r materion hynny yn dangos ei bod yn bosibl nad yw’r cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio â’r canlynol—
(aa) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;
(bb) adran 37 (dyletswydd gyffredinol i gynnal system gyflenwad dŵr etc.) o Ddeddf 1991;
(cc) adran 68 o Ddeddf 1991; a
(ii) gwirio bod hysbysiad wedi ei roi am ddigwyddiad, achlysur, argyfwng neu fater arall o’r fath gan y cyflenwr dŵr perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth o’r fath o dan adran 202 o Ddeddf 1991. £65 am bob awr gyflawn y mae arolygydd yn arfer y swyddogaeth.

(d) Mewn perthynas â chyflenwr dŵr perthnasol—
(i) ymchwilio i gŵyn defnyddiwr ynghylch ansawdd neu ddigonolrwydd dŵr pan fo’r gŵyn yn dangos ei bod yn bosibl nad yw’r cyflenwr dŵr perthnasol wedi cydymffurfio â’r canlynol—
(aa) Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2010;
(bb) adran 37 o Ddeddf 1991;
(cc) adran 68 o Ddeddf 1991; a
(ii) gwirio y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad gan Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth am gwynion o’r fath o dan adran 202 o Ddeddf 1991. £65 am bob awr gyflawn y mae arolygydd yn arfer y swyddogaeth.