
2016 Rhif 84 (Cy. 38)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Chwefror 2016
Yn dod i rym 1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 50(2), 50(3), 50(4), 50(4E), 81(2), 81(3) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy;
Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal y cyfryw ymgynghoriad ag sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 50(5) o’r Ddeddf honno;
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y diwygiadau i’r cod ymddygiad enghreifftiol a ddyroddir o dan adran 50(2) yn gyson â’r egwyddorion a bennir yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 a wnaed yn unol ag adran 49(2), fel sy’n ofynnol gan adran 50(4)(a) o’r Ddeddf honno.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2016 a daw i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i bob awdurdod perthnasol yng Nghymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a nodir yn Rhan 1 o’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn 2008;
 ystyr “Gorchymyn 2008” (“the 2008 Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008.
Diwygio’r Atodlen i Orchymyn 2008
2 

(1) Mae’r cod enghreifftiol yn yr Atodlen i Orchymyn 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 1—
(a) ym mharagraff 1(1), yn y man priodol mewnosoder—“
 ystyr “cofrestr o fuddiannau’r aelodau” (“register of members’ interests”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gedwir o dan adran 81 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;”;
(b) yn lle paragraff 1(2) rhodder—“
(2) Mewn perthynas â chyngor cymuned—
(a) ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw swyddog o’r cyngor hwnnw o fewn ystyr adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972; a
(b) ystyr “pwyllgor safonau” (“standards committee”) yw pwyllgor safonau’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol sydd â swyddogaethau mewn perthynas â’r cyngor cymuned y mae’n gyfrifol amdano o dan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.”
(3) Yn Rhan 2—
(a) ym mharagraff 3(a) yn lle “awdurdod heddlu neu Fwrdd” rhodder “Bwrdd”;
(b) ym mharagraff 6(1)(c) hepgorer “i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac”.
(4) Yn Rhan 3—
(a) hepgorer paragraff 10(2)(b);
(b) ym mharagraff 11(4), ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”;
(c) yn lle paragraff 12(2)(b)(iv) rhodder—“
(iv) â swyddogaethau eich awdurdod mewn cysylltiad â lwfans neu daliad a wneir yn unol â darpariaethau Rhan 8 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, neu lwfans neu bensiwn a ddarperir o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;”;
(d) ym mharagraff 14—
(i) yn is-baragraff (1), ar ôl “is-baragraffau (2),” mewnosoder “(2A),”;
(ii) ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Os oes gennych fuddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes y mae a wnelo eich awdurdod ag ef cewch gyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig i gyfarfod sy’n ymwneud â’r busnes hwnnw, ar yr amod y caniateir i’r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod at y diben o wneud cynrychioliadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth sy’n ymwneud â’r busnes, pa un ai o dan hawl statudol neu fel arall.
(2B) Pan fyddwch yn cyflwyno cynrychioliadau ysgrifenedig o dan is-baragraff (2A), rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw weithdrefn y caiff eich awdurdod ei fabwysiadu ar gyfer cyflwyno cynrychioliadau o’r fath.”
(5) Yn Rhan 4—
(a) yn lle paragraff 15 rhodder—“
Cofrestru Buddiannau Personol
15. 

(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl—
(a) i god ymddygiad eich awdurdod gael ei fabwysiadu neu i ddarpariaethau gorfodol y cod enghreifftiol hwn gael eu cymhwyso i’ch awdurdod; neu
(b) i chi gael eich ethol neu eich penodi i swydd (os digwydd hynny’n ddiweddarach),
gofrestru eich buddiannau personol, os ydynt yn dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw fuddiant personol newydd sy’n dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), gofrestru’r buddiant personol newydd hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod.
(3) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), rhaid i chi, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dod yn ymwybodol o unrhyw newid i fuddiant personol a gofrestrwyd sy’n dod o fewn categori a grybwyllir ym mharagraff 10(2)(a), gofrestru’r newid hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod, neu, yn achos cyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod.
(4) Nid yw is-baragraffau (1), (2) a (3) yn gymwys i wybodaeth sensitif a benderfynir yn unol â pharagraff 16(1).
(5) Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys os ydych yn aelod o awdurdod perthnasol sy’n gyngor cymuned pan fyddwch yn gweithredu yn eich capasiti fel aelod o awdurdod o’r fath.
(6) Pan fyddwch yn datgelu buddiant personol yn unol â pharagraff 11 am y tro cyntaf, rhaid i chi gofrestru’r buddiant personol hwnnw yng nghofrestr eich awdurdod o fuddiannau’r aelodau drwy ddarparu hysbysiad ysgrifenedig ar gyfer swyddog monitro eich awdurdod, neu, yn achos cyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod.”;
(b) ym mharagraff 16(2), ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”;
(c) ym mharagraff 17, ar ôl “swyddog monitro eich awdurdod” mewnosoder “, neu mewn perthynas â chyngor cymuned, swyddog priodol eich awdurdod”.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016