
2016 Rhif 813 (Cy. 203) (C. 57)
Tai, Cymru
Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016
Gwnaed 25 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 257(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2 
5 Awst 2016 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn ddod i rym—
(a) darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 1 o’r Atodlen at ddiben gwneud rheoliadau; a
(b) darpariaethau’r Ddeddf a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen at ddiben dyroddi canllawiau.
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
25 Gorffennaf 2016
YR ATODLEN
Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym ar 5 Awst 2016
Erthygl 2
RHAN 1 Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym at ddiben gwneud rheoliadau
1 
Adran 23 (darpariaethau atodol).
2 
Adran 29 (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract).
3 
Adran 32(4) (yr hyn y mae datganiad ysgrifenedig i’w gynnwys).
4 
Adran 45(3) (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal).
5 
Adran 94 (penderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi).
6 
Adran 112 (tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amser).
7 
Adran 131 (tynnu’n ôl: y pŵer i ragnodi terfynau amser).
8 
Adran 203(5) a (6) (adolygiad y landlord o benderfyniad i roi hysbysiad).
9 
Adran 221 (gwaredu eiddo).
10 
Adran 236(3) a (4) (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill).
11 
Paragraff 15(10) o Atodlen 2 (ymestyn y cyfnod perthnasol).
12 
Paragraff 17 o Atodlen 2 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
13 
Paragraff 10(2) o Atodlen 3 (llety myfyrwyr).
14 
Paragraff 15(3) a (4) o Atodlen 3 (llety nad yw’n llety cymdeithasol).
15 
Paragraff 17 o Atodlen 3 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
16 
Paragraff 4(7) a (8) o Atodlen 4 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod rhagarweiniol).
17 
Paragraff 1(6) o Atodlen 5 (cynlluniau blaendal).
18 
Paragraff 5(7) a (8) o Atodlen 7 (adolygiad y landlord o benderfyniad i ymestyn cyfnod prawf).
19 
Paragraff 15(2) o Atodlen 12 (amrywio).
20 
Paragraff 33 o Atodlen 12 (pŵer i ddiwygio’r Atodlen).
RHAN 2 Y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n dod i rym at ddiben dyroddi canllawiau
21 
Adran 116(4) (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).
22 
Adran 146(1) (gwahardd dros dro: canllawiau).