
2016 Rhif 79 (Cy. 36) (C. 6)
Rheoli Perygl Llifogydd, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016
Gwnaed 26 Ionawr 2016
Yn dod i rym 1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 48(2) a 49(3)(i) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr “Deddf 2010” yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010; ac
(b) ystyr “Deddf 1975” yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2016
2 
Daw’r darpariaethau canlynol yn Neddf 2010, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eisoes, i rym ar 1 Ebrill 2016—
(a) adran 33 (cronfeydd dŵr);
(b) paragraffau 2 i 11, 13 a 14 o Atodlen 4 (cronfeydd dŵr);
(c) paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn (gweler erthygl 3);
(d) paragraffau 20 i 29, 33 i 36 a 41 o Atodlen 4.
Darpariaethau sy’n dod i rym ar y diwrnod cymwys o ran cyforgronfeydd dŵr mawr cyn-gychwyn
3 

(1) Daw paragraff 12 a pharagraffau 15 i 19 o Atodlen 4 i Ddeddf 2010 i rym ar y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn.
(2) Mae cronfa ddŵr yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn os oedd wedi ei chofrestru fel cyforgronfa ddŵr fawr o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985 yn union cyn 1 Ebrill 2016.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y diwrnod cymwys mewn perthynas ag unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a) 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn dynodi’r gronfa ddŵr honno yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b) 1 Ebrill 2017.
(4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo cyforgronfa ddŵr fawr cyn-gychwyn—
(a) wedi ei dynodi yn rhinwedd hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975; a
(b) mae ymgymerwr y gronfa ddŵr yn apelio yn erbyn y dynodiad o dan Reoliad 4(1) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016.
(5) Mewn unrhyw achos pan fo paragraff (4) yn gymwys, y diwrnod cymwys yw pa bynnag ddyddiad yw’r cynharaf o’r canlynol—
(a) y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu’r apêl yn rhinwedd rheoliad 4(2) o Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apelau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016; a
(b) 1 Ebrill 2017.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2016