
2016 Rhif 77 (Cy. 34)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 26 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Ionawr 2016
Yn dod i rym 22 Chwefror 20166
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Mae’r rheoliad hwn a rheoliadau 2, 4, 5, 8, 10, 12(2), 14 ac 16 yn dod i rym ar 22 Chwefror 2016.
(3) Mae pob rheoliad arall a’r Atodlen—
(a) yn dod i rym ar 22 Chwefror 2016; a
(b) yn gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 pa un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2016.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 18.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—
(1) ar ôl y diffiniad o “cyfnod arferol” mewnosoder—“
 mae i “cyfnod hawlogaeth” (“entitlement period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3A);”
(2) ar ôl y diffiniad o “chwarter” mewnosoder—“
 mae i “datganiad cymhwystra dilys” (“valid declaration of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(3A).”
4 
Yn rheoliad 5 (cyrsiau dynodedig) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (8).”
5 
Yn rheoliad 10 (terfynau amser), ym mharagraff (2)(e) yn lle “22(4)” rhodder “22(7)”.
6 
Yn lle rheoliad 12 (gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad), rhodder—“
Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad
12. 

(1) Er mwyn cael benthyciad rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i’w penderfynu gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys lofnodi contract drwy ddefnyddio llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru.”
7 
Yn rheoliad 28 (grantiau ar gyfer dibynyddion – grant gofal plant)—
(1) Ym mharagraff (2), ar ôl “baragraffau (3)” mewnosoder “, (3B)”.
(2) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Yn y Rheoliadau hyn, mae i “cyfnod hawlogaeth” a “datganiad cymhwystra dilys” yr un ystyr ag a roddir i “entitlement period” a “valid declaration of eligibility” at ddibenion Deddf Taliadau Gofal Plant 2014 a rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honno.
(3B) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.”
8 
Yn y testun Saesneg yn rheoliad 37 (grant cynhaliaeth – myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd), ym mharagraff (3)(a) ar ôl “£3,000” hepgorer y coma.
9 
Yn rheoliad 67 (gordaliadau), ar ôl paragraff (13) mewnosoder—“
(14) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan Ran 5 neu 6 ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 4 (myfyrwyr cymwys).”
10 
Yn rheoliad 71 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig), ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(6) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan y rheoliad hwn.”
11 
Yn rheoliad 85 (gordaliadau), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 69 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys).”
12 
Yn rheoliad 88 (cyrsiau rhan-amser dynodedig)—
(1) ar ôl paragraff (1)(d) mewnosoder—“
(dd) ar gyfer cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2016 ac sy’n dod o fewn paragraff 1, 2, 4, 6, 7 neu 8 o Atodlen 2, os yw’n gwrs sy’n arwain at ddyfarniad sydd wedi ei roi neu sydd i’w roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”
(2) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(8) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (6).”
13 
Yn rheoliad 97 (grant rhan-amser ar gyfer gofal plant)—
(1) Ym mharagraff (2), ar ôl “baragraffau (3)” mewnosoder “, (3A)”.
(2) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn yn ystod unrhyw gyfnod hawlogaeth pan fo myfyriwr cymwys neu bartner myfyriwr cymwys wedi gwneud datganiad cymhwystra dilys o dan Ddeddf Taliadau Gofal Plant 2014 mewn perthynas ag unrhyw blentyn.”
14 
Yn rheoliad 100 (grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion – dehongli)—
(1) ym mharagraff (1)(j) yn lle “(i), (j), (k)” rhodder “(p), (q), (r)”;
(2) ym mharagraff (1)(j) yn lle “(2) a (3)” rhodder “(3) a (4)”;
(3) ym mharagraff (1)(q) yn lle “(h)” rhodder “(j)”;
(4) ym mharagraff (1)(r) yn lle “(h)” rhodder “(j)”;
(5) ym mharagraff (5) yn lle “(5)” rhodder “(6)”;
(6) ym mharagraff (6) yn lle “(4)” rhodder “(5)”.
15 
Yn rheoliad 114 (gordaliadau), ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 86 (myfyrwyr rhan-amser cymwys).”
16 
Yn rheoliad 117 (cyrsiau ôl-radd dynodedig)—
(1) yn y testun Saesneg ym mharagraff (1)(c) ar ôl “institution” yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “in”;
(2) ar ôl paragraff (4) mewnosoder—“
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs a ddynodir o dan baragraff (4).”
17 
Yn rheoliad 124 (gordaliadau), ar ôl paragraff (9) mewnosoder—“
(10) At ddiben y rheoliad hwn mae cyfeiriad at fyfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cynnwys person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 115 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys).”
18 
Mae’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn yn cael effaith i roi’r ffigur yn nhrydedd golofn y tabl yn lle’r ffigur yn yr ail golofn lle y mae’n ymddangos yn y rheoliad yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 a nodir yn y golofn gyntaf.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
26 Ionawr 2016
YR ATODLEN
Diwygiad i ffigurau
Rheoliad 18


Darpariaeth yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015 Ffigur presennol Ffigur newydd
Rheoliad 17
(3)(a) £5,190 £5,100
(3)(b) £3,810 £3,900
(4)(a) £2,605 £2,560
(4)(b) £1,895 £1,940
Rheoliad 19
(3)(a) £3,805 £3,925
(3)(a) £1,895 £1,955
Rheoliad 21
(3)(a) £3,810 £3,900
(4)(a) £1,895 £1,940
Rheoliad 46
(2) (i) categori 1 £4,162 £4,786
(2) (ii) categori 2 £7,532 £8,662
(2) (iii) categori 3 £6,410 £7,372
(2) (iv) categori 4 £6,410 £7,372
(2) (v) categori 5 £5,376 £6,183
(3) (i) categori 1 £3,767 £4,333
(3) (ii) categori 2 £6,858 £7,887
(3) (iii) categori 3 £5,575 £6,412
(3) (iv) categori 4 £5,575 £6,412
(3) (v) categori 5 £4,980 £5,727
Rheoliad 47
(2) (a) categori 1 £4,162 £4,786
(2) (b) categori 2 £7,532 £8,662
(2) (c) categori 3 £6,410 £7,372
(2) (d) categori 4 £6,410 £7,372
(2) (e) categori 5 £5,376 £6,183
(3) (a) categori 1 £3,767 £4,333
(3) (b) categori 2 £6,858 £7,887
(3) (c) categori 3 £5,575 £6,412
(3) (d) categori 4 £5,575 £6,412
(3) (e) categori 5 £4,980 £5,727
Rheoliad 48
(2) (i) categori 1 £4,162 £4,786
(2) (ii) categori 2 £7,532 £8,662
(2) (iii) categori 3 £6,410 £7,372
(2) (iv) categori 4 £6,410 £7,372
(2) (v) categori 5 £5,376 £6,183
(3) (i) categori 1 £3,767 £4,333
(3) (ii) categori 2 £6,858 £7,887
(3) (iii) categori 3 £5,575 £6,412
(3) (iv) categori 4 £5,575 £6,412
(3) (v) categori 5 £4,980 £5,727
Rheoliad 49
(2) (i) categori 1 £4,162 £4,786
(2) (ii) categori 2 £7,532 £8,662
(2) (iii) categori 3 £6,410 £7,372
(2) (iv) categori 4 £6,410 £7,372
(2) (v) categori 5 £5,376 £6,183
(3) (i) categori 1 £3,767 £4,333
(3) (ii) categori 2 £6,858 £7,887
(3) (iii) categori 3 £5,575 £6,412
(3) (iv) categori 4 £5,575 £6,412
(3) (v) categori 5 £4,980 £5,727
Rheoliad 50
(1)(a) (i) categori 1 £1,976 £2,272
(1)(a) (ii) categori 2 £3,703 £4,259
(1)(a) (iii) categori 3 £2,634 £3,030
(1)(a) (iv) categori 4 £2,634 £3,030
(1)(a) (v) categori 5 £2,634 £3,030
(1)(b) (i) categori 1 £1,976 £2,272
(1)(b) (ii) categori 2 £3,703 £4,259
(1)(b) (iii) categori 3 £3,150 £3,623
(1)(b) (iv) categori 4 £3,150 £3,623
(1)(b) (v) categori 5 £2,634 £3,030
(1)(c) (i) categori 1 £3,121 £3,590
(1)(c) (ii) categori 2 £5,649 £6,497
(1)(c) (iii) categori 3 £4,807 £5,529
(1)(c) (iv) categori 4 £4,807 £5,529
(1)(c) (v) categori 5 £4,032 £4,637
(2)(a) (i) categori 1 £1,501 £1,727
(2)(a) (ii) categori 2 £2,831 £3,256
(2)(a) (iii) categori 3 £2,053 £2,361
(2)(a) (iv) categori 4 £2,053 £2,361
(2)(a) (v) categori 5 £2,053 £2,361
(2)(b) (i) categori 1 £1,501 £1,727
(2)(b) (ii) categori 2 £2,831 £3,256
(2)(b) (iii) categori 3 £2,302 £2,648
(2)(b) (iv) categori 4 £2,302 £2,648
(2)(b) (v) categori 5 £2,053 £2,361
(2)(c) (i) categori 1 £2,825 £3,250
(2)(c) (ii) categori 2 £5,143 £5,915
(2)(c) (iii) categori 3 £4,181 £4,809
(2)(c) (iv) categori 4 £4,181 £4,809
(2)(c) (v) categori 5 £3,735 £4,295
Rheoliad 61
(3)(a) categori 1 £3,121 £3,590
(3)(b) categori 2 £5,649 £6,497
(3)(c) categori 3 £4,807 £5,529
(3)(d) categori 4 £4,807 £5,529
(3)(e) categori 5 £4,032 £4,637
(4)(a) categori 1 £2,825 £3,250
(4)(b) categori 2 £5,143 £5,915
(4)(c) categori 3 £4,181 £4,809
(4)(d) categori 4 £4,181 £4,809
(4)(e) categori 5 £3,735 £4,295