
2016 Rhif 713 (Cy. 191) (C. 51)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2016
Gwnaed 5 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 188 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2 

(1) Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym at y diben a bennir ym mharagraff (2) yw 11 Gorffennaf 2016—
(a) adran 67 (Gofal Cymdeithasol Cymru);
(b) adran 68 (amcanion GCC);
(c) adran 73(1) a (2) (rheolau: cyffredinol);
(d) adran 75 (ymgynghori cyn gwneud rheolau etc.).
(2) Mae’r darpariaethau ym mharagraff (1) wedi eu dwyn i rym i’r graddau sy’n ofynnol, ac at ddiben galluogi Gofal Cymdeithasol Cymru i gyflawni ei ddyletswydd i ymgynghori o dan adran 75(2) o’r Ddeddf yn effeithiol.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
5 Gorffennaf 2016