
2016 Rhif 691 (Cy. 189)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Rheoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016
Gwnaed 28 Mehefin 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Gorffennaf 2016
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 2(4) o Ddeddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (“DARhLl 1999”) —
(a) Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(b) y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol, diwydiant, amaethyddiaeth a busnesau bach, yn eu trefn, sy’n briodol yn eu tyb hwy; a
(c) y cyrff neu’r personau eraill hynny sy’n briodol yn eu tyb hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol, yn unol ag adran 27(2) a (4) o Ddeddf Gwastraff a Masnachu Allyriadau 2003 (“DGMA 2003”) —
(a) y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau awdurdodau gwaredu gwastraff yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy;
(b) y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n ymwneud â gweithredu safleoedd tirlenwi yn eu hardaloedd sy’n briodol yn eu tyb hwy; ac
(c) y cyrff neu’r personau hynny yr ymddengys iddynt eu bod yn cynrychioli unrhyw bersonau eraill yr effeithir arnynt sy’n briodol yn eu tyb hwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r canlynol yn unol ag adran 8 o Fesur Gwastraff (Cymru) 2010 (“MG(C) 2010”) —
(a) Corff Adnoddau Naturiol Cymru;
(b) pob awdurdod lleol; ac
(c) unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn nhyb Gweinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“DCE 1972”) mewn perthynas â mesurau ynghylch atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o DCE 1972, adran 2 o DARhLl 1999 ac Atodlen 1 iddi, adrannau 11, 12, 13 a 36 o DGMA 2003 ac adrannau 5(1)(a) a (b) a (d) i (f) a 19(2) o MG(C) 2010.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Ystyr Adfer) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “cyfleuster gwastraff”, ar ôl y geiriau “Cyngor ar wastraff” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005
3 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)(a) (Y Gyfarwyddeb Wastraff ac ystyr gwastraff), yn lle’r geiriau “Rheoliad y Comisiwn (UE) Rhif 1357/2014” rhodder “Cyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127”.
Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010
4 

(1) Mae Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli: Cyfarwyddebau) yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—“
 “the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on waste;”.
Diwygio Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011
5 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1) (dehongli), yn lle’r diffiniad o “the Waste Framework Directive” rhodder—“
 “the Waste Framework Directive” means Directive 2008/98/EC of the European Parliament and of the Council on waste;”.
Diwygio Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011
6 

(1) Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” ar ôl y geiriau “sy’n diddymu Cyfarwyddebau penodol” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2016