
2016 Rhif 690 (Cy. 188)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Trwyddedu (morol), Cymru
Llygredd Morol, Cymru
Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 28 Mehefin 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Gorffennaf 2016
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2016

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) mewn perthynas ag atal, lleihau a rheoli gwastraff.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf 1972.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Gorffennaf 2016.
Diwygio Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011
2 

(1) Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3 (dehongli), yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff” (“the Waste Framework Directive”), ar ôl “Cyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wastraff” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (UE) 2015/1127”.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Mehefin 2016