
2016 Rhif 661 (Cy. 180)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 20 Mehefin 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Mehefin 2016
Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 43(c) a 57(1) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 6(d) (yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau) yn lle’r geiriau “rheoliad 9” rhodder “rheoliad 8”.
Kirsty Williams
Ysgifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2016