
2016 Rhif 61 (Cy. 31)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn-ymgeisio) (Cymru) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Chwefror 2016
Yn dod i rym 16 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 61Z1, 61Z2 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn-ymgeisio) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid oes dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a) cais neu gais arfaethedig am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygu tir yng Nghymru pan fo’r datblygiad y mae’r cais neu’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol; neu
(b) cais neu ofyniad am gydsyniad eilaidd yr ystyria’r ceisydd y dylai penderfyniad ynglŷn ag ef gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2012;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd yn bwriadu gwneud cais cymwys;
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
 ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.
Cyfathrebiadau electronig
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—
(a) mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;
(b) mae cyfeiriadau at ddeisyfiadau neu ddogfennau eraill, yn cynnwys cyfeiriadau at ddogfennau o’r fath ar ffurf electronig.
(2) Mae paragraffau (3) i (6) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi neu anfon deisyfiad neu unrhyw ddogfen arall i neu at unrhyw berson arall (“y derbynnydd”).
(3) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r deisyfiad neu ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a) yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c) yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(4) Ym mharagraff (3), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth a gynhwysir yn y deisyfiad neu ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau, o leiaf, ag y byddai pe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(5) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi cael y cyfathrebiad electronig ar y diwrnod gwaith nesaf; ac at y diben hwn ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc nac unrhyw ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru.
(6) Mae gofyniad yn y Gorchymyn hwn, y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (3), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
Ceisiadau cymwys
4 
Ceisiadau cymwys at ddibenion adran 61Z1(4) o Ddeddf 1990 (Cymru: gwasanaethu cyn-ymgeisio) yw ceisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir i awdurdod cynllunio lleol ar gyfer datblygu tir yng Nghymru ac eithrio ceisiadau yn unol ag adran 73A o Ddeddf 1990 (caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad a gyflawnwyd eisoes).
Deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio
5 

(1) Rhaid i unrhyw ddeisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys fod—
(a) yn ysgrifenedig i’r awdurdod cynllunio lleol ar ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru (neu ffurflen sydd, o ran sylwedd, yn cael yr un effaith);
(b) yn cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; ac
(c) wedi ei gyflwyno ynghyd ag—
(i) unrhyw blaniau neu luniadau a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru; a
(ii) y ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio.
(2) Rhaid i unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu gan baragraff (1)(c)(i) fod wedi eu lluniadu ar raddfa a nodir, ac, yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos cyfeiriad y gogledd.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio” (“valid request for pre-application services”) yw deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio mewn cysylltiad â chais cymwys sy’n cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn.
(4) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael cais dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, anfon cydnabyddiaeth o’r deisyfiad at y ceisydd, gan ddatgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu gwasanaethau cyn-ymgeisio o dan reoliad 6(3).
Dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio
6 

(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cael deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir ym mharagraff (2) o fewn y cyfnod a bennir neu y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
(2) Y gwasanaethau cyn-ymgeisio a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a) os yw’r deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio yn ymwneud â chais deiliad tŷ arfaethedig, darparu i’r ceisydd yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 7; neu
(b) mewn unrhyw achos arall, darparu i’r ceisydd yr wybodaeth a bennir yn rheoliadau 7 ac 8.
(3) Y cyfnod a bennir yn y paragraff hwn yw—
(a) 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir deisyfiad dilys am wasanaethau cyn-ymgeisio, neu pa bynnag gyfnod arall a gytunir mewn ysgrifen rhwng y ceisydd a’r awdurdod; neu
(b) pan fo’r ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â deisyfiad am wasanaethau cyn-ymgeisio wedi ei thalu â siec a’r siec honno wedyn yn cael ei dychwelyd heb ei thalu, y cyfnod fel a bennir yn is-baragraff (a) wedi ei gyfrifo gan ddiystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd fod y siec wedi ei dychwelyd heb ei thalu a’r dyddiad pan fodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.
(4) Rhaid i unrhyw wybodaeth a roddir i’r ceisydd fod mewn ysgrifen.
Gwybodaeth sydd i’w darparu gan awdurdodau cynllunio lleol: pob cais cymwys arfaethedig
7 
Yr wybodaeth a bennir yn y rheoliad hwn yw gwybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—
(a) hanes cynllunio’r tir y bwriedir cyflawni’r datblygiad arfaethedig arno, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais arfaethedig;
(b) darpariaethau’r cynllun datblygu, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;
(c) unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i’r graddau y maent yn faterol berthnasol i’r cais arfaethedig;
(d) unrhyw ystyriaethau eraill sydd, neu a allai fod yn faterol berthnasol ym marn yr awdurdod; ac
(e) asesiad dechreuol o’r datblygiad arfaethedig ar sail yr wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau (a) i (d).
Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w darparu gan awdurdodau cynllunio lleol: ceisiadau cymwys arfaethedig ac eithrio ceisiadau deiliaid tai arfaethedig
8 

(1) Yr wybodaeth a bennir yn y rheoliad hwn yw gwybodaeth mewn perthynas â’r canlynol—
(a) a yw’n debygol ai peidio y bydd rhwymedigaethau cynllunio (yn yr ystyr a roddir i “planning obligations” yn adran 106 o Ddeddf 1990 (rhwymedigaethau cynllunio) ) yn ofynnol, ac os ydyw, dynodiad o gwmpas tebygol y cyfryw rwymedigaethau cynllunio, gan gynnwys dynodiad o unrhyw swm y caniateir ei gwneud yn ofynnol i’w dalu i’r awdurdod;
(b) a yw’n debygol ai peidio y bydd atebolrwydd i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol yn codi, ac os ydyw, dynodiad o’r swm tebygol; ac
(c) manylion am unrhyw ddogfennau a manylion neu dystiolaeth a fyddai’n ofynnol er mwyn i unrhyw gais dilynol fod yn gais dilys.
(2) Yn y rheoliad hwn mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr ag yn erthygl 22 o Orchymyn 2012.
Monitro a datganiad o wasanaethau
9 

(1) Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol gadw cofnod o’r canlynol—
(a) pob deisyfiad dilys a gânt am wasanaethau cyn-ymgeisio; a
(b) gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys.
(2) Rhaid i’r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ganiatáu adnabod y tir y mae’r cais cymwys yn ymwneud ag ef.
(3) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi ar ei wefan—
(a) datganiad sy’n rhoi manylion am y gwasanaethau cyn-ymgeisio a ddarperir ganddo mewn cysylltiad â cheisiadau cymwys;
(b) y ffurflen y cyfeirir ati yn rheoliad 5(1)(a); ac
(c) manylion am y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â deisyfiadau am wasanaethau cyn-ymgeisio.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016