
2016 Rhif 60 (Cy. 30)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Chwefror 2016
Coming into force 16 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 323A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Apelau Dilysu) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 16 Mawrth 2016.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “apêl” (“appeal”) yw apêl a wneir o dan adran 62ZB o’r Ddeddf (hawl i apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad);
 ystyr “apelydd” (“appellant”) yw’r person sy’n rhoi hysbysiad apêl i Weinidogion Cymru;
 ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw’r corff a roddodd yr hysbysiad o dan adran 62ZA o’r Ddeddf a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;
 mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;
 mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac
 ystyr “hysbysiad apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad apêl o dan adran 62ZB o’r Ddeddf.
(2) Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig—
(a) mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath;
(b) mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill yn cynnwys cyfeiriadau at ddogfennau o’r fath ar ffurf electronig.
(3) Mae paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fo person yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu anfon ato, unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall.
(4) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a) yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;
(b) yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c) yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(6) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
(7) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
Hysbysu ynghylch cael apêl
3 
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi iddynt gael hysbysiad apêl, roi gwybod i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol yn ysgrifenedig—
(a) am y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i’r apêl; a
(b) y bydd yr apêl yn dilyn y gweithdrefnau a nodir yn y Rheoliadau hyn.
Sylwadau
4 

(1) Sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl yw’r hysbysiad apêl a’r dogfennau a gyflwynir ynghyd â’r hysbysiad apêl.
(2) Sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl yw’r hysbysiad a roddir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 62ZA o’r Ddeddf yn datgan bod y cais yn annilys.
Gwybodaeth bellach
5 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i’r apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill ddarparu pa bynnag wybodaeth bellach neu ddogfennau pellach a bennir sy’n berthnasol i’r apêl.
(2) Rhaid darparu’r wybodaeth honno neu’r dogfennau hynny ar ba ffurf bynnag ac o fewn pa gyfnod bynnag a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw ddogfennau pellach oni ddarparwyd yr wybodaeth neu’r dogfennau yn unol â pharagraff (1).
Hysbysu ynghylch y penderfyniad
6 
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r canlynol, yn ysgrifenedig, am eu penderfyniad ar apêl, a’u rhesymau dros ddod i’r penderfyniad hwnnw—
(a) yr apelydd; a
(b) yr awdurdod cynllunio lleol.
Trosglwyddo dogfennau
7 
Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a) drwy’r post; neu
(b) drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drosglwyddo’r hysbysiad neu’r ddogfen (yn ôl y digwydd) at berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir gan y person hwnnw at y diben hwnnw am y tro.
Tynnu’n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig
8 
Pan na fo person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
(a) yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol amdano at y diben hwnnw, neu
(b) yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda Gweinidogion Cymru neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,a bydd y tynnu’n ôl neu’r dirymu hwnnw yn derfynol ac yn cael effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond heb fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016