
2016 Rhif 6 (Cy. 4)
Addysg, Cymru
Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 6 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8th January 2016
Yn dod i rym 1 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 14, 16, 28 a 47(1) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio
2 
Mae Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 3(1)—
(i) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 ystyr “athro neu athrawes enwebedig” (“nominated teacher”) yw person a grybwyllir ym mharagraffau 3, 4, 5, 6 neu 7 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn ac sydd wedi ei enwebu gan y pennaeth pan fo’r pennaeth yn ystyried bod hynny’n briodol o dan yr amgylchiadau”; a
(ii) yn y diffiniad o “anghymhwysedd proffesiynol difrifol”, yn lle “anghymhwysedd ar lefel” rhodder “cymhwysedd ar lefel”;
(b) yn rheoliad 16, ar ôl “yn rhinwedd”, yn y man cyntaf lle y mae’n digwydd, mewnosoder “rheoliad 18A neu”;
(c) yn rheoliad 18, ar ôl “(cofrestr a gynhelir gan y Cyngor)” mewnosoder “yn y categori athro neu athrawes ysgol”;
(d) ar ôl Rhan 3 mewnosoder—“
RHAN 3A Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
Gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion
18A. 

(1) Mae gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol yn berson sy’n darparu’r gwasanaethau a bennir yn rheoliad 17 (“y gwasanaethauneu sy’n cefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol.
(2) Ni chaniateir i weithiwr cymorth dysgu mewn ysgol ddarparu’r gwasanaethau neu gefnogi’r ddarpariaeth o’r gwasanaethau gan athro neu athrawes ysgol oni bai—
(a) ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgolion;
(b) ei fod yn darparu’r gwasanaethau gan ryngweithio’n uniongyrchol â dysgwyr i gynorthwyo neu gefnogi gwaith athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn yr ysgol;
(c) ei fod yn darparu’r gwasanaethau o dan gyfarwyddyd a goruchwyliaeth athrawon ysgol neu athrawon enwebedig yn unol â threfniadau a wneir gan bennaeth yr ysgol; a
(d) bod y pennaeth yn fodlon ei fod yn meddu ar y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad i ddarparu’r gwasanaethau.
(3) Wrth benderfynu a oes gan berson y sgiliau, yr arbenigedd a’r profiad sy’n ofynnol i ddarparu’r gwasanaethau a bennir ym mharagraff (2)(d) mewn ysgol, rhaid i benaethiaid roi ystyriaeth i—
(a) y safonau ar gyfer cynorthwywyr addysgu lefel uwch, neu’r canllawiau sy’n ymwneud â’r cymwysterau ar gyfer gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru; a
(b) canllawiau ar y materion cytundebol sy’n ymwneud â gweithwyr cymorth dysgu mewn ysgolion a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan unrhyw awdurdod lleol neu gyflogwr arall.”;
(e) ar ôl Rhan 4 mewnosoder—“
RHAN 4A Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: gweithwyr cymorth dysgu mewn addysg bellach
19A. 
Ni chaniateir i berson ddarparu’r gwasanaethau a nodir yn adran 16(2) o Ddeddf 2014 oni bai ei fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach.”; ac
(f) yn Atodlen 3 hepgorer paragraff 8.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2016