
2016 Rhif 57 (Cy. 27)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Yn dod i rym 1 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 303(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016, a deuant i rym ar 1 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys—
(a) pan wneir cais i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol sydd i’w gwneud i Weinidogion Cymru); neu
(b) pan gynigir bod cais o’r fath yn cael ei wneud.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd naill ai’n bwriadu gwneud cais neu sydd wedi gwneud cais o’r fath;
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016;
 ystyr “person penodedig” (“appointed person”) yw’r person a benodir o dan Reoliadau 2016 i arfer y swyddogaethau a bennir yn y Rheoliadau hynny (yn ddarostyngedig bob amser i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff 9 o Atodlen 4D i Ddeddf 1990); ac
 ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad—
(a) at gael taliad o ffi yn gyfeiriad at y derbynnydd yn cael taliad o swm llawn y ffi mewn arian a gliriwyd;
(b) at fethiant i dalu ffi yn gyfeiriad at y derbynnydd yn peidio â chael swm llawn y ffi mewn arian a gliriwyd, neu yn cael siec nas anrhydeddir yn ddiweddarach am swm llawn y ffi; ac
(c) at golofn neu res yn gyfeiriad at golofn neu res yn y tabl yn yr Atodlen.
Ffi am wasanaethau awdurdodau cynllunio lleol cyn ymgeisio
3 

(1) Pan wneir archiad gwasanaethau cyn ymgeisio gan awdurdod cynllunio lleol o dan Reoliadau 2016, rhaid talu ffi i’r awdurdod.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(3) Rhaid cyflwyno’r ffi ynghyd â’r archiad.
(4) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu’r ffi o dan y rheoliad hwn, ni fydd rhaid i’r awdurdod lleol gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r archiad hyd nes bo’r awdurdod yn cael y taliad.
(5) Rhaid i unrhyw ffi a dalwyd yn unol â’r rheoliad hwn gael ei ad-dalu os gwrthodir yr archiad fel un annilys.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “yr awdurdod cynllunio lleol” (“the local planning authority”) yw’r awdurdod lleol y byddid, oni bai am adran 62D o Ddeddf 1990, wedi gwneud y cais arfaethedig iddo.
Ffi am wasanaethau Gweinidogion Cymru cyn ymgeisio
4 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio yn unol â Rheoliadau 2016 (“gwasanaethau cyn ymgeisio”) (“pre-application services”), rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru.
(2) Cyfrifir y ffi sy’n daladwy drwy luosi cyfanswm yr amser (mewn oriau a rhannau o awr) a dreulir gan swyddog cynllunio yn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio gyda’r gyfradd fesul awr am swyddog cynllunio.
(3) Y gyfradd fesul awr am swyddog cynllunio yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd fesul ysbaid resymol mewn cysylltiad â nifer yr oriau a dreulir yn darparu gwasanaethau cyn ymgeisio a swm y ffi am y gwasanaethau hynny.
(5) Rhaid i unrhyw ffi sy’n ddyladwy mewn cysylltiad â gwasanaethau cyn cymhwyso gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir yr anfoneb berthnasol oddi wrth Weinidogion Cymru.
(6) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi am wasanaethau cyn cymhwyso o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddarpariaeth o wasanaethau cyn ymgeisio hyd nes byddant wedi cael y taliad.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog cynllunio” (“planning officer”) yw swyddog sy’n gweithio i gyd-asiantaeth weithredol yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru, a elwir yr Arolygiaeth Gynllunio.
Ffi am hysbysu ynghylch cais arfaethedig
5 

(1) Pan fo’r ceisydd yn rhoi hysbysiad ynghylch cais arfaethedig yn unol ag adran 62E(1) o Ddeddf 1990 (hysbysiad o gais arfaethedig o dan adran 62D), rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru (“ffi hysbysu”) (“ notification fee”).
(2) Y ffi hysbysu yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(3) Rhaid cyflwyno’r ffi hysbysu ynghyd â’r hysbysiad.
Ffi am wneud cais
6 

(1) Rhaid i ffi gael ei thalu i Weinidogion Cymru gan y ceisydd am wneud cais.
(2) Y ffi yw swm cyfanredol y canlynol—
(a) y ffi ddechreuol yn unol â rheoliad 7;
(b) y ffi am bob adroddiad ar yr effaith leol yn unol â rheoliad 8;
(c) y ffi am archwilio cais, a gyfrifir yn unol â rheoliad 10(2);
(d) y ffi am unrhyw hysbysiad o fwriad i amrywio cais yn unol â rheoliad 11(2); ac
(e) y ffi am benderfynu cais gan Weinidogion Cymru, a gyfrifir yn unol â rheoliad 12(2).
Ffi ddechreuol am wneud cais
7 

(1) Pan wneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid talu ffi ddechreuol i Weinidogion Cymru (“ffi ddechreuol”) (“initial fee”).
(2) Y ffi ddechreuol yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(3) Rhaid cyflwyno’r ffi ddechreuol ynghyd â’r cais.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu 75% o’r ffi ddechreuol i’r ceisydd os—
(a) tynnir y cais yn ôl cyn bo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad derbyn i’r ceisydd; neu
(b) hysbysir y ceisydd o dan erthygl 15(5) o Orchymyn 2016 nad yw’r cais wedi ei dderbyn.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu 25% o’r ffi ddechreuol i’r ceisydd os oes hysbysiad derbyn wedi ei roi ond tynnir y cais yn ôl cyn diwedd y cyfnod sylwadau.
(6) Ym mharagraffau (4) a (5), mae’r cyfeiriadau at y ffi ddechreuol yn gyfeiriadau at y ffi ddechreuol a dalwyd gan y ceisydd i Weinidogion Cymru.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad o dan erthygl 15(2) o Orchymyn 2016 bod y cais wedi ei dderbyn; ac
(b) ystyr “y cyfnod sylwadau” (“the representation period”) yw’r cyfnod y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Orchymyn 2016.
Ffi am adroddiad ar yr effaith leol
8 

(1) Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â phob adroddiad ar yr effaith leol y gwneir yn ofynnol bod awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn ei gyflwyno (“ffi am adroddiad”) (“report fee”).
(2) Y ffi am adroddiad yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(3) Rhaid cyflwyno’r ffi am adroddiad ynghyd â’r cais.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) anfon y cyfryw ffi ymlaen yn unol â rheoliad 9(2); neu
(b) anfon ac ad-dalu’r cyfryw ffi yn unol â rheoliad 9(3); neu
(c) ad-dalu’r cyfryw ffi yn unol â rheoliad 9(1) neu 9(4).
Peidio â chodi ffi am adroddiad a’i had-dalu
9 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r ffi am adroddiad i’r ceisydd pan—
(a) tynnir y cais yn ôl cyn bo awdurdod cynllunio lleol perthnasol wedi cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru; neu
(b) hysbysir y ceisydd gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 15(5) o Orchymyn 2016 nad yw’r cais wedi ei dderbyn.
(2) Pan fo awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru erbyn y terfyn amser a bennwyd gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 62I(3) o Ddeddf 1990 (“y terfyn amser”) (“the deadline”), rhaid i Weinidogion Cymru anfon y ffi am adroddiad at yr awdurdod.
(3) Pan fo awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru ar ôl y terfyn amser ond o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau gyda’r terfyn amser, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) anfon hanner y ffi am adroddiad at yr awdurdod; a
(b) ad-dalu hanner arall y ffi am adroddiad i’r ceisydd.
(4) Pan nad yw awdurdod cynllunio lleol perthnasol yn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru naill ai erbyn y terfyn amser neu o fewn y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau gyda’r terfyn amser, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r ffi am adroddiad i’r ceisydd.
(5) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at “ffi am adroddiad” yn gyfeiriadau at y ffi am adroddiad a dalwyd i Weinidogion Cymru gan y ceisydd.
Ffi am archwilio cais
10 

(1) Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am archwilio cais (“ffi archwilio”) (“examination fee”).
(2) Rhaid cyfrifo’r ffi fel swm cyfanredol—
(a) nifer y diwrnodau neu ran o ddiwrnod a dreulir gan y person penodedig yn archwilio’r cais wedi ei luosi gydag—
(i) ar gyfer y rhan honno o’r cais a archwilir ar sail sylwadau ysgrifenedig, y gyfradd ddyddiol a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3;
(ii) ar gyfer y rhan honno o’r cais a archwilir ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad, y gyfradd ddyddiol a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3; a
(b) unrhyw gostau ychwanegol a dynnir mewn gwirionedd gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag archwilio’r cais.
(3) Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys—
(a) costau a dynnir wrth ddarparu lleoliad neu gyfleusterau eraill mewn cysylltiad â gwrandawiad neu ymchwiliad, gan gynnwys costau a dynnir yn rhesymol mewn cysylltiad â gwrandawiad neu ymchwiliad nas cynhelir;
(b) costau a dynnir wrth roi hysbysiad cyhoeddus o wrandawiad neu ymchwiliad;
(c) unrhyw gostau sy’n briodoladwy i benodi asesydd;
(d) unrhyw gostau cyfreithiol neu alldaliadau rhesymol eraill a dynnir neu a delir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag archwilio cais.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r ceisydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, amcangyfrif ysgrifenedig o’r nifer o ddiwrnodau y bydd archwilio’r cais yn debygol o’u cymryd.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (4), ar unrhyw adeg.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd fesul ysbaid resymol mewn cysylltiad â nifer y diwrnodau a dreulir ac am unrhyw gostau a dynnir mewn gwirionedd mewn cysylltiad ag archwilio’r cais.
(7) Rhaid i unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir yr anfoneb berthnasol oddi wrth Weinidogion Cymru.
(8) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (7), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes byddant wedi cael y taliad.
(9) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod ym mharagraff (7), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais ac ystyrir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.
(10) Mae ffi yn parhau yn daladwy o dan y rheoliad hwn pan dynnir cais yn ôl cyn bo adroddiad wedi ei wneud o dan Reoliadau 2016.
(11) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “asesydd” (“assessor”) yw person a benodir i eistedd gyda pherson penodedig mewn gwrandawiad neu ymchwiliad neu wrandawiad neu ymchwiliad a ail agorwyd, i gynorthwyo’r person penodedig;
(b) ystyrir bod “diwrnod” (“day”) yn cynnwys 7.4 o oriau; ac
(c) bod “archwilio cais” (“examining an application”) yn cynnwys archwilio unrhyw gydsyniadau eilaiddsy’n gysylltiedig â’r cais pan fo’r penderfyniad ar y cydsyniadau hynny i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Ffi am hysbysu ynghylch bwriad i amrywio
11 

(1) Pan fo ceisydd yn rhoi hysbysiad o fwriad i amrywio cais, rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru (“ffi amrywio”) (“variation fee”).
(2) Y ffi amrywio yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(3) Rhaid cyflwyno’r ffi amrywio ynghyd â’r hysbysiad.
(4) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu’r ffi amrywio, ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r hysbysiad hyd nes bydd Gweinidogion Cymru wedi cael y taliad.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad o fwriad i amrywio” (“notification of intention to vary”) yw hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan erthygl 27(3) o Orchymyn 2016, gan gynnwys yr erthygl honno fel y’i cymhwysir gan Reoliadau 2016.
Ffi am i Weinidogion Cymru benderfynu cais
12 

(1) Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am benderfynu cais (“ffi benderfynu”) (“determination fee”).
(2) Y ffi benderfynu yw swm cyfanredol y canlynol—
(a) ffi benodedig; a
(b) unrhyw gostau ychwanegol a dynnir mewn gwirionedd gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfynu’r cais.
(3) Y ffi benodedig yw’r swm a nodir yn y rhes berthnasol o golofn 3.
(4) Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys—
(a) unrhyw gostau cyfreithiol neu alldaliadau rhesymol eraill a dynnir neu a delir gan neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â phenderfynu’r cais; a
(b) costau a dynnir wrth adolygu ac ystyried rhwymedigaethau cynllunio.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd am y ffi benodedig ar unrhyw adeg ar ôl cael adroddiad y person penodedig, a fesul ysbaid resymol mewn cysylltiad ag unrhyw gostau ychwanegol a dynnir mewn gwirionedd mewn cysylltiad â phenderfynu’r cais.
(6) Rhaid i unrhyw ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol oddi wrth Weinidogion Cymru.
(7) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes bydd Gweinidogion Cymru wedi cael y taliad.
(8) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyladwy o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), ni fydd rhaid i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais ac ystyrir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.
(9) Bydd ffi benderfynu yn parhau’n daladwy hyd yn oed os tynnir y cais yn ôl cyn i’r cais gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru.
(10) Yn y rheoliad hwn, mae “penderfynu cais” (“determining an application”) yn cynnwys penderfynu unrhyw gydsyniadau eilaidd sy’n gysylltiedig â’r cais pan fo’r penderfyniad ar y cydsyniadau hynny i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016
YR ATODLEN
Symiau taladwy mewn cysylltiad â ffioedd ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol
Rheoliadau 3(2), 4(3), 5(2), 7(2), 8(2), 10(2)(a)(i), 10(2)(a)(ii), 11(2), a 12(3)


Colofn 1Rheoliad Colofn 2Pwnc Colofn 3
Rheoliad 3(2) Gwasanaethau cyn ymgeisio awdurdodau cynllunio lleol £1,500
Rheoliad 4(3) Cyfradd fesul awr am swyddog cynllunio £55 plws treth ar werth
Rheoliad 5(2) Ffi hysbysu £580
Rheoliad 7(2) Ffi ddechreuol £15,350
Rheoliad 8(2) Ffi am adroddiad mewn achos pan fo adroddiad ar yr effaith leol yn ofynnol mewn cysylltiad â chais yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990 (penderfynu ceisiadau i ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd yn flaenorol) pan fod adroddiad ar yr effaith leol wedi ei gyflwyno yn flaenorol £2,350
 Ffi adrodd mewn unrhyw achos arall £7,750
Rheoliad 10(2)(a)(i) Cyfradd ddyddiol am berson penodedig yn archwilio cais ar sail sylwadau ysgrifenedig £870
Rheoliad 10(2)(a)(ii) Cyfradd ddyddiol am berson penodedig yn archwilio cais ar sail gwrandawiad neu ymchwiliad £920
Rheoliad 11(2) Ffi amrywio £520
Rheoliad 12(3) Ffi benodedig am i gais gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru £14,700