
2016 Rhif 52 (Cy. 22) (C. 4)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2016
Gwnaed 27 Ionawr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 58(4) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Mawrth 2016
2 
Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 1 Mawrth 2016—
(a) adrannau 17 i 22; a
(b) adran 49.
3 
Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd yw 1 Mawrth 2016—
(a) adrannau 24 i 27;
(b) adrannau 33 a 34;
(c) adran 50;
(d) Atodlen 3; ac
(e) Atodlen 4.
4 
Y diwrnod penodedig i adran 51 o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau a ganlyn o Atodlen 5 i Ddeddf 2015 yw 1 Mawrth 2016—
(a) paragraffau 1 i 14;
(b) paragraff 16(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2), ac is-baragraff (2);
(c) paragraff 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5(4) o Atodlen 8 i Ddeddf 1990;
(d) paragraff 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 20, a pharagraff 21(1), (2)(a) a (b);
(e) paragraff 20;
(f) paragraff 21(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2)(a) a (b), ac is-baragraff (2)(a) a (b);
(g) paragraff 22;
(h) paragraff 23 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 24, 25(1), 25(2)(a) a (b), a 26;
(i) paragraff 24;
(j) paragraff 25(1), (2)(a) a (b); a
(k) paragraff 26.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 16 Mawrth 2016
5 
Y diwrnod penodedig i’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym yw 16 Mawrth 2016—
(a) adrannau 28 i 30;
(b) adrannau 32 i 38; ac
(c) adrannau 43 i 46.
Darpariaethau trosiannol
6 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 17 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad mawr a wneir cyn 1 Awst 2016.
7 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 19 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 1 Mawrth 2016.
8 
Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 28 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 16 Mawrth 2016.
9 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 29(1) a (2) o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a wneir cyn 16 Mawrth 2016.
10 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 29(1) a (3) o Ddeddf 2015 yn gymwys i apêl sy’n ymwneud â chais a wneir cyn 16 Mawrth 2016.
11 
Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 32 o Ddeddf 2015 yn gymwys pan fo, cyn 16 Mawrth 2016,—
(a) hysbysiad gorfodi wedi ei ddyroddi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 ac nad yw wedi ei dynnu yn ôl o dan adran 173A o’r Ddeddf honno; a
(b) naill ai un neu’r ddau o’r is-baragraffau a ganlyn yn gymwys—
(i) bod apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 wedi ei gwneud yn erbyn yr hysbysiad hwnnw;
(ii) bod cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad y mae’r hysbysiad gorfodi hwnnw’n ymwneud ag ef yn cael ei wneud ar ôl y dyddiad y dyroddwyd yr hysbysiad hwnnw a chyn 16 Mawrth 2016.
12 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adrannau 33 a 34 o Ddeddf 2015 yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir cyn 16 Mawrth 2016.
13 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adrannau 35 a 36 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 73 o Ddeddf 1990 cyn 16 Mawrth 2016.
14 
Nid yw’r diwygiadau i Ddeddf 1990 a wneir gan adrannau 44 a 46 o Ddeddf 2015 yn gymwys pan fo, cyn 16 Mawrth 2016, hysbysiad gorfodi yn cael ei ddyroddi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 ac nad yw’n cael ei dynnu yn ôl o dan adran 173A o’r Ddeddf honno.
15 
Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 45 o Ddeddf 2015 yn gymwys i apêl a wneir o dan adran 78 o Ddeddf 1990 cyn 16 Mawrth 2016.
16 
Nid yw’r diwygiad i Ddeddf 1990 a wneir gan adran 49 o Ddeddf 2015 yn gymwys i gais neu apêl a wneir i Weinidogion Cymru, neu gyfeiriad a wneir atynt, cyn 1 Mawrth 2016.
17 

(1) Nid yw’r diwygiadau a wneir gan y paragraffau hynny o Atodlen 5 i Ddeddf 2015 a restrir yn erthygl 4 yn gymwys i achosion a gychwynnir cyn 1 Mawrth 2016.
(2) At ddibenion paragraff (1) ystyr “a gychwynnir” (“instituted”) yw—
(a) mewn perthynas ag adran 121 o Ddeddf Priffyrdd 1980, bod y cwestiwn o ba un a yw atal cydsyniad yn afresymol neu ba un a yw unrhyw ddarpariaeth yn rhesymol yn dod yn benderfyniad i Weinidogion Cymru;
(b) mewn perthynas ag adran 28F o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, bod apêl yn cyrraedd Gweinidogion Cymru;
(c) mewn perthynas ag adran 28L o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y gwneir apêl o dan adran 28L(1);
(d) mewn perthynas ag Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, y cyflwynir gorchymyn i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau o dan baragraff 7 o’r Atodlen honno;
(e) mewn perthynas ag adran 175 o Ddeddf 1990, y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig am apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;
(f) mewn perthynas ag adran 196 o Ddeddf 1990, y cyflwynir hysbysiad am apêl o dan adran 195 o Ddeddf 1990;
(g) mewn perthynas ag adran 208 o Ddeddf 1990, y rhoddir neu yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig am apêl;
(h) mewn perthynas ag adran 320 o Ddeddf 1990, y perir i ymchwiliad lleol gael ei gynnal;
(i) mewn perthynas ag achos y mae adran 322 o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 13 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, y gwneir y cais neu’r cyfeiriad neu y rhoddir yr hysbysiad am apêl;
(j) mewn perthynas ag achos y mae adran 322A o Ddeddf 1990 yn gymwys iddo neu a fyddai’n gymwys iddo ond am baragraff 14 o Atodlen 5 i Ddeddf 2015, ei bod yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i wrandawiad neu ymchwiliad gael ei gynnal neu wneud trefniadau ar gyfer gwrandawiad neu ymchwiliad yn unol ag adran 319B o Ddeddf 1990;
(k) mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf 1990 y mae Atodlen 6 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;
(l) mewn perthynas ag Atodlen 8 i Ddeddf 1990, y gwneir cyfeiriad at y Comisiwn Ymchwiliad Cynllunio gan Weinidogion Cymru;
(m) mewn perthynas ag adran 41 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, y rhoddir hysbysiad am apêl o dan adran 39 o’r Ddeddf honno;
(n) mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 y mae Atodlen 3 i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol;
(o) mewn perthynas ag adran 25 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990, y gwneir apêl o dan yr adran honno; a
(p) mewn perthynas ag apêl o dan Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 y mae’r Atodlen i’r Ddeddf honno’n gymwys iddi, bod person penodedig yn penderfynu cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu y cyfarwyddir ef gan Weinidogion Cymru i gynnal ymchwiliad lleol.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016