
2016 Rhif 483 (Cy. 154)
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2016
Gwnaed 4 Ebrill 2016
Yn dod i rym 5 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, a pharagraff 5 o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2016 a daw i rym ar 5 Ebrill 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998.
Diwygio erthygl 3 o’r prif Orchymyn
2 
Mae erthygl 3 o’r prif Orchymyn wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (2)(c), yn yr ail le y mae’n ymddangos, hepgorer “and”;
(b) ym mharagraff (2)(d), yn lle “.” rhodder “; and”; ac
(c) ar ôl paragraff (2)(d) mewnosoder—“
(e) to provide—
(i) information about health conditions and availability of health services; and
(ii) remote access health advisory, triage and referral services,
for the purposes of the health service in Wales.”
Vaughan Gething
Y Dirprwy Weinidog Iechyd, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Ebrill 2016