
2016 Rhif 467 (Cy. 149) (C. 28)
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016
Gwnaed 26 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 188(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 1) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Cychwyn paragraff 59 o Atodlen 3
2 
Y diwrnod penodedig i adran 185 o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf, ddod i rym yw 6 Ebrill 2016.
Cychwyn paragraffau 60 i 65 o Atodlen 3
3 
Y diwrnod penodedig i adran 185 o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 60 i 65 o Atodlen 3 i’r Ddeddf, ddod i rym yw 6 Ebrill 2016.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2016