
2016 No. 452 (Cy. 143) (C. 22)
Plant A Phobl Ifanc, Cymru
Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2016
Gwnaed 26 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 44 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2016
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf (sy’n gwneud diwygiadau i Ddeddf Plant 1989) i rym o ran Cymru ar 6 Ebrill 2016—
(a) adran 8(1) (darparu llety a chynhaliaeth i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym);
(b) adran 8(2) i’r graddau y mae’n ymwneud ag Atodlen 1, paragraffau 1, 2, 3(1), (2) a (3), 5, 6, 15, 16, 17, 18 ac 21;
(c) adran 10(1) a (3) (swyddogion adolygu annibynnol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y mae’n ymwneud â diddymu adran 26(2)(k) a (2A) i (2D) o Ddeddf Plant 1989;
(d) adran 16 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym).
Darpariaeth arbed
3 
Er i adran 10(3) o’r Ddeddf ddod i rym yn unol ag erthygl 2(c), mae adran 26 o Ddeddf Plant 1989 yn parhau i gael effaith heb ei diwygio at ddibenion paragraff 10(2)(l) o Atodlen 6 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau o ran lleoli plant mewn cartrefi preifat i blant).
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2016