
2016 Rhif 409 (Cy. 127)
Y Gymraeg
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016
Gwnaed 15 Mawrth 2016
Yn dod i rym 31 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 154 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â darpariaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt.

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 150(2)(k) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Mawrth 2016.
Diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006
2 
Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn adran 78—
(i) hepgorer is-adrannau (2) a (3);
(ii) yn is-adran (4)(a) hepgorer “both” ac “and the Welsh language scheme”;
(iii) yn is-adran (4)(b) yn lle “scheme or revise them” rhodder “revise it”.
(iv) yn is-adrannau (5), (6) a (7), ym mhob man lle y mae’n digwydd, hepgorer “or scheme”;
(v) yn is-adran (6) hepgorer “and the Welsh language scheme”;
(vi) yn is-adran (6)(b) hepgorer “or the Welsh language scheme”; ac
(vii) yn lle is-adran (8) rhodder—“
(8) After each financial year the Welsh Ministers must publish a report of how the proposals set out in the Welsh language strategy were implemented in that financial year and how effective their implementation has been in promoting and facilitating the use of the Welsh language and must lay a copy of the report before the Assembly.”; a
(b) ym mharagraff 48 o Atodlen 11—
(i) hepgorer is-baragraff (2); a
(ii) yn is-baragraff (3) yn lle “Sub-paragraphs (1) and (2) do” rhodder “Sub-paragraph (1) does”.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru

15 March 2016