
2016 Rhif 397 (Cy. 124)
Y Gymraeg
Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016
Gwnaed 15 Mawrth 2016
Yn dod i rym 21 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 35, 38 a 150(2)(f) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 150(2)(f) o’r Mesur, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) (Rhif 2) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mawrth 2016.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(4) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Diwygio Atodlen 6
2 
Mae Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
15 Mawrth 2016
YR ATODLEN
DIWYGIADAU I ATODLEN 6
Erthygl 2
1 
Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 (cyrff cyhoeddus etc: safonau) i’r Mesur, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig (“Merthyr Tydfil College Limited”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”
“Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant (“The governing body of Saint David’s Catholic College”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”
“Tribiwnlys Prisio Cymru (“Valuation Tribunal for Wales”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”
“WJEC CBAC Cyfyngedig (“WJEC CBAC Limited”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”
“Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“Trustees of the National Heritage Memorial Fund”) Safonau cyflenwi gwasanaethauSafonau llunio polisiSafonau gweithreduSafonau cadw cofnodion”
2 
Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 (public bodies etc: standards) i’r Mesur, yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
The governing body of Saint David’s Catholic College (“Corff llywodraethu Coleg Catholig Dewi Sant”) Service delivery standardsPolicy making standardsOperational standardsRecord keeping standards”
“Merthyr Tydfil College Limited (“Coleg Merthyr Tudful Cyfyngedig”) Service delivery standardsPolicy making standardsOperational standardsRecord keeping standards”
“Trustees of the National Heritage Memorial Fund (“Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol”) Service delivery standardsPolicy making standardsOperational standardsRecord keeping standards”
“Valuation Tribunal for Wales (“Tribiwnlys Prisio Cymru”) Service delivery standardsPolicy making standardsOperational standardsRecord keeping standards”
“WJEC CBAC Limited (“WJEC CBAC Cyfyngedig”) Service delivery standardsPolicy making standardsOperational standardsRecord keeping standards”
3 
Yn nhestun Cymraeg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a) “Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“National Heritage Memorial Fund”)”;
(b) “Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru (“The Valuation Tribunal Service for Wales”)”.
4 
Yn nhestun Saesneg y tabl yn Atodlen 6 i’r Mesur, hepgorer y cofnodion a ganlyn—
(a) “National Heritage Memorial Fund (“Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol”)”;
(b) “The Valuation Tribunal Service for Wales (“Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru”)”.