
2016 Rhif 359 (Cy. 112)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016
Gwnaed 14 Mawrth 2016
Yn dod i rym 15 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 92 a 219(2) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991 ac adran 62 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (“Deddf 2008”).
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, yn unol ag adran 66 o Ddeddf 2008, y bydd Corff Adnoddau Naturiol Cymru (sef y rheoleiddiwr at ddibenion y Rheoliadau hyn) yn gweithredu yn unol â’r egwyddorion y cyfeirir atynt yn adran 5(2) o’r Ddeddf honno wrth arfer pŵer a roddir gan y Rheoliadau hyn.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’u cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 62 o Ddeddf 2008.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Storio Olew) (Cymru) 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2016.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2020 mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd y mae olew yn cael ei storio ynddo ar 15 Mawrth 2016.
(5) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mawrth 2018 mewn perthynas ag unrhyw gynhwysydd —
(a) y mae olew yn cael ei storio ynddo ar 15 Mawrth 2016; a
(b) sydd wedi ei leoli—
(i) llai na 10 metr o unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol; neu
(ii) llai na 50 metr o ffynnon neu dwll turio.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cynhwysydd” (“container”) yw tanc sefydlog â chragen sengl neu gragen ddwbl, drwm, bowser symudol neu (hyd yn oed os nad yw wedi ei gysylltu â phibell sefydlog neu bibellwaith sefydlog) cynhwysydd swmp o faint canolig;
 ystyr “drwm” (“drum”) yw drwm olew neu gynhwysydd tebyg a ddefnyddir i storio olew;
 mae “mangreoedd” (“premises”) yn cynnwys tir ond nid yw’n cynnwys cerbydau na llestrau;
 ystyr “olew” (“oil”) yw olew o unrhyw fath ac eithrio bitwmen crai;
 ystyr “sugnbibell ceudod bychan” (“small bore suction pipe”) yw sugnbibell y mae diamedr ei phibell yn llai nag wyth o filimedrau;
 ystyr “system atal eilaidd” (“secondary containment system”) yw hambwrdd diferion, ardal wedi ei hamgylchynu gan fwnd neu ddalbwll neu unrhyw system arall ar gyfer atal olew nad yw yn ei gynhwysydd mwyach rhag gollwng o’r fan y mae’n cael ei storio;
 mae “tanc sefydlog” (“fixed tank”) yn cynnwys cynhwysydd swmp o faint canolig sydd wedi ei gysylltu â phibell sefydlog neu bibellwaith sefydlog.
Cwmpas y Rheoliadau
3 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo olew yn cael ei storio.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos pan fo olew yn cael ei storio mewn unrhyw gynhwysydd—
(a) sydd â chapasiti storio o 200 o litrau neu lai; neu
(b) sydd wedi ei leoli yn gyfan gwbl o dan y ddaear (oni bai bod y cynhwysydd hwnnw wedi ei leoli mewn adeilad).
(3) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos pan fo storio olew yn ddarostyngedig i drwydded amgylcheddol o fewn ystyr rheoliad 13(1) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010.
(4) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn achos pan fo olew yn cael ei storio mewn mangreoedd—
(a) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat os oedd y cynhwysydd y mae’r olew yn cael ei storio ynddo yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio olew ar y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym mewn perthynas â’r cynhwysydd hwnnw (gweler rheoliad 1);
(b) a ddefnyddir fel depo dosbarthu olew; neu
(c) a ddefnyddir ar gyfer puro olew.
Gofynion mewn perthynas â chynwysyddion storio olew
4 
Rhaid i berson sydd ag olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau bod yr olew yn cael ei storio mewn cynhwysydd sydd—
(a) â digon o gryfder a chyfanrwydd strwythurol i sicrhau ei fod yn annhebygol o ymrwygo neu ollwng wrth gael ei ddefnyddio yn y modd arferol;
(b) sydd wedi ei osod heb effeithio’n andwyol ar y cryfder a’r cyfanrwydd strwythurol hwnnw; ac
(c) sydd wedi ei leoli o fewn system atal eilaidd sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn rheoliad 5.
Gofynion mewn perthynas â systemau atal eilaidd
5 

(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), rhaid i’r system atal eilaidd a grybwyllir yn rheoliad 4(c) fod â chapasiti nad yw’n llai na 110% o gapasiti storio’r cynhwysydd.
(3) Pan fo’r system atal eilaidd yn cynnwys mwy nag un cynhwysydd rhaid iddo fod â chapasiti nad yw’n llai na—
(a) 110% o gapasiti storio’r cynhwysydd mwyaf (neu o un cynhwysydd pan fônt o’r un capasiti); neu
(b) 25% o gapasiti storio crynswth y cynwysyddion,pa un bynnag yw’r mwyaf.
(4) Pan fo unrhyw ddrwm yn cael ei ddefnyddio i storio olew ar y cyd â hambwrdd diferion fel system atal eilaidd, rhaid i’r hambwrdd fod â chapasiti nad yw’n llai na—
(a) 25% o gapasiti storio’r drwm; neu
(b) (os defnyddir mwy nag un drwm ar yr un pryd â’r hambwrdd) 25% o gapasiti storio crynswth y drymiau,
pa un bynnag yw’r mwyaf.
(5) Rhaid lleoli’r system atal eilaidd, neu rhaid cymryd camau eraill, er mwyn lleihau unrhyw risg o ddifrod drwy ardrawiad i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
(6) Rhaid i sylfaen a waliau’r system atal eilaidd—
(a) fod yn anhydraidd i ddŵr ac olew;
(b) peidio â bod wedi eu treiddio gan unrhyw falf, pibell nac agoriad arall a ddefnyddir i ddraenio’r system.
(7) Os oes unrhyw bibell lenwi neu bibell wagu yn treiddio drwy sylfaen neu unrhyw un neu ragor o waliau’r system atal eilaidd, rhaid i gydiadau’r bibell â’r sylfaen neu’r waliau fod wedi eu selio mewn ffordd sy’n atal olew rhag gollwng o’r system.
(8) Rhaid i unrhyw falf, hidlydd, medrydd tryloyw, pibell awyr neu gyfarpar arall sy’n ategol i’r cynhwysydd (ac eithrio pibell lenwi neu bibell wagu) fod wedi eu lleoli o fewn y system atal eilaidd.
(9) Os nad yw’r man cysylltu i bibell lenwi o fewn y system atal eilaidd, rhaid defnyddio hambwrdd diferion i ddal unrhyw olew sy’n gollwng wrth lenwi’r cynhwysydd ag olew.
Y gofynion mewn perthynas â thanciau sefydlog
6 

(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Pan fo tanc sefydlog yn cael ei ddefnyddio i storio olew rhaid bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (3) i (114).
(3) Rhaid i unrhyw fedrydd tryloyw fod wedi ei ategu’n ddigonol a rhaid gosod falf arno sy’n cau’n awtomatig pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
(4) Rhaid i unrhyw bibell lenwi, pibell wagu neu bibell orlif fod wedi ei lleoli, neu rhaid cymryd camau eraill, er mwyn lleihau unrhyw risg o ddifrod gan ardrawiad i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.
(5) Rhaid i unrhyw bibell a grybwyllir ym mharagraff (3) sydd uwchben y ddaear fod wedi ei hategu’n ddigonol.
(6) Rhaid i unrhyw bibell a grybwyllir ym mharagraff (3) sydd wedi ei gwneud o ddeunyddiau sy’n dueddol o gyrydu fod wedi ei diogelu’n ddigonol rhag cyrydiad.
(7) Rhaid gosod falf wrthseiffno ar unrhyw sugnbibell ceudod bychan.
(8) Rhaid gosod dyfais atal gorlenwi awtomatig ar y tanc os yw’r weithred lenwi yn cael ei rheoli o fan lle nad yw’n rhesymol ymarferol i edrych ar y tanc ac unrhyw bibell awyr.
(9) Pan fo ffitiad sgriwio neu gyplyn sefydlog arall wedi ei osod, rhaid ei gynnal a’i gadw mewn cyflwr da, a rhaid ei ddefnyddio pryd bynnag y bo’r tanc yn cael ei lenwi ag olew.
(10) Mae paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo olew o’r tanc yn cael ei drosglwyddo drwy bibell hyblyg sydd wedi ei gosod ynghlwm yn barhaol i’r tanc neu i bwmp trosglwyddo.
(11) Rhaid i’r bibell hyblyg fod â thap neu falf wedi ei gosod ar ei phen trosglwyddo sy’n—
(a) cau’n awtomatig pan nad yw’n cael ei defnyddio; a
(b) rhaid sicrhau nad oes modd gadael y tap neu’r falf ar agor (oni bai bod dyfais diffodd awtomatig wedi ei gosod ar y bibell).
(12) Rhaid i’r bibell hyblyg fod naill ai—
(a) wedi ei hamgáu mewn cabinet diogel sy’n cael ei gau a’i gloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio a rhaid bod ganddo hambwrdd diferion; neu
(b) bod â falf y gellir ei chloi lle y mae’n gadael y cynhwysydd sy’n cael ei chau a’i chloi pan nad yw’n cael ei defnyddio.
(13) Rhaid i unrhyw bwmp—
(a) bod â falf unffordd wedi ei gosod ar ei bibell borthi;
(b) bod wedi ei leoli, neu ei wneud yn ddarostyngedig i fesurau eraill, i leihau unrhyw risg o ddifrod i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol; ac
(c) bod wedi ei ddiogelu’n ddigonol rhag cael ei ddefnyddio heb awdurdod.
(14) Rhaid i unrhyw bibell awyr, tap neu falf barhaol y gellir gollwng olew ohonynt o’r tanc i’r tu allan fodloni’r gofynion a ganlyn—
(a) rhaid iddynt fod wedi eu lleoli o fewn y system atal eilaidd;
(b) rhaid gwneud trefniadau i sicrhau bod unrhyw olew sy’n cael ei ollwng o’r tanc nad yw’n mynd i’r fan y bwriedir iddo fynd yn cael ei ddal o fewn y system; ac
(c) (yn achos tap neu falf), rhaid bod clo wedi ei osod arno neu arni, a rhaid ei gau a’i gloi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.
Y gofynion mewn perthynas â phibellau tanddaearol sy’n gysylltiedig â thanciau sefydlog
7 

(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo pibell a grybwyllir yn rheoliad 6(4) o dan y ddaear.
(3) Ni chaniateir i’r bibell fod ag unrhyw gymalau mecanyddol, oni bai eu bod wedi eu lleoli mewn man lle maent yn hygyrch i’w harchwilio drwy agor agorfa neu gaead.
(4) Rhaid i’r bibell fod wedi ei diogelu’n ddigonol rhag difrod ffisegol.
(5) Rhaid i’r bibell fod â chyfleusterau digonol i ganfod unrhyw ollyngiadau.
(6) Os oes dyfais canfod gollyngiadau wedi ei gosod ar y bibell sy’n cael ei defnyddio’n barhaus i fonitro ar gyfer unrhyw ollyngiadau, rhaid cynnal a chadw’r ddyfais mewn cyflwr sy’n gweithio a rhaid ei phrofi o leiaf unwaith bob pum mlynedd, neu’n amlach os yw hynny’n briodol i’r ddyfais dan sylw, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio’n briodol.
(7) Os nad oes dyfais canfod gollyngiadau wedi ei gosod ar y bibell, rhaid cynnal profion ar unrhyw bibell a ddefnyddir am y tro cyntaf ar y dyddiad neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym i ganfod unrhyw ollyngiadau cyn ei defnyddio am y tro cyntaf mewn perthynas â’r tanc y mae’r bibell honno’n gysylltiedig ag ef (gweler rheoliad 1), a rhaid cynnal profion pellach i ganfod unrhyw ollyngiadau o leiaf unwaith bob pum mlynedd yn achos pibellau sydd â chymalau mecanyddol, ac o leiaf unwaith bob deng mlynedd mewn achosion eraill.
(8) Rhaid cynnal profion ar unrhyw bibell—
(a) sydd eisoes yn cael ei defnyddio ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym mewn perthynas â’r tanc y mae’r bibell honno’n gysylltiedig ag ef (gweler rheoliad 1); a
(b) nad oes profion i ganfod gollyngiadau wedi eu cynnal arni yn ystod y pum mlynedd blaenorol,
o fewn un flwyddyn o ‘r dyddiad hwnnw, ac ar ôl hynny o leiaf unwaith bob pum mlynedd os oes ganddi gymalau mecanyddol, neu o leiaf unwaith bob deng mlynedd mewn unrhyw achosion eraill.
(9) Rhaid cynnal profion ar unrhyw bibell sydd â chymalau mecanyddol sydd—
(a) eisoes yn cael ei defnyddio ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym mewn perthynas â’r tanc y mae’r bibell honno’n gysylltiedig ag ef (gweler rheoliad 1); a
(b) y mae profion i ganfod gollyngiadau wedi eu cynnal arni yn ystod y pum mlynedd blaenorol,
o leiaf unwaith bob pum mlynedd ar ôl dyddiad y prawf blaenorol, ac o leiaf unwaith bob deng mlynedd ar ôl dyddiad y prawf blaenorol mewn unrhyw achosion eraill.
Bowseri symudol
8 

(1) Rhaid i berson sydd ag unrhyw olew dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion y rheoliad hwn.
(2) Os yw bowser symudol yn cael ei ddefnyddio i storio olew, rhaid bodloni’r gofynion a nodir ym mharagraffau (3) i (5).
(3) Rhaid gosod clo ar unrhyw dap neu falf sydd wedi ei osod neu ei gosod ynghlwm yn barhaol i’r bowser y gellir gollwng olew ohono i’r tu allan, a rhaid ei gau a’i gloi pan nad yw’r bowser yn cael ei ddefnyddio.
(4) Pan fo olew yn cael ei drosglwyddo o fowser symudol drwy bibell hyblyg sydd wedi ei gosod ynghlwm yn barhaol i’r bowser—
(a) rhaid bod pwmp neu falf a weithredir â llaw wedi ei osod neu ei gosod ar y bibell ar y pen trosglwyddo, a rhaid i’r pwmp neu’r falf—
(i) cau’n awtomatig pan nad yw’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio;
(ii) bod â chlo arno neu arni; a
(iii) cael ei gau a’i gloi neu ei chau a’i chloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio;
(b) rhaid gosod falf y gellir ei chloi ar y bibell ar y pen lle y mae’n gadael y bowser symudol, a rhaid cau a chloi’r falf pan nad yw’n cael ei defnyddio.
(5) Rhaid gosod unrhyw fedrydd tryloyw ynghlwm i’r bowser symudol yn ddigonol, rhaid gosod falf neu dap arno, a rhaid ei gau a’i gloi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio.
Trosedd
9 

(1) Mae person sydd yn torri rheoliadau 4, 5(1), 6(1), 7(1), neu 8(1) yn euog o drosedd.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored o gael euogfarn ddiannod neu o gael euogfarn ar dditiad, i ddirwy.
Sancsiynau Sifil
10 

(1) Caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru—
(a) gosod cosb ariannol benodedig;
(b) gosod cosb ariannol amrywiadwy;
(c) gosod gorchymyn adfer;
(d) gosod hysbysiad stop;
(e) derbyn ymgymeriad gorfodi;
mewn perthynas â’r drosedd yn rheoliad 9(1).
(2) Mae i’r termau a ddefnyddir ym mharagraff (1)(a) i (e) yr un ystyron ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008.
(3) Mae darpariaethau Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010 yn gymwys mewn perthynas â’r sancsiynau a grybwyllir ym mharagraff (1).
Gorfodi
11 
Caiff Corff Adnoddau Naturiol Cymru orfodi’r Rheoliadau hyn.
Diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010
12 

(1) Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (11).
(2) Yn rheoliad 1(1), yn lle “Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru 2010)” rhodder “Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010”.
(3) Yn rheoliad 2(1) hepgorer y diffiniad o “olew tanwydd” (“fuel oil”).
(4) Hepgorer rheoliad 5.
(5) Yn rheoliad 6(1), yn lle “seilo, system storio slyri na thanc storio tanwydd” rhodder “seilo na system storio slyri”.
(6) Yn rheoliad 6(1)(a), yn lle’r geiriau o “wneud silwair” hyd at ddiwedd yr is-baragraff, rhodder “wneud silwair neu storio slyri”.
(7) Yn rheoliad 6(2), yn lle “seilo, system storio slyri neu danc storio tanwydd” rhodder “seilo neu system storio slyri”.
(8) Yn rheoliad 7(1)—
(a) yn lle “silwair, slyri neu olew tanwydd” rhodder “silwair neu slyri”;
(b) yn lle “seilo, y system storio slyri neu’r tanc storio olew tanwydd” rhodder “seilo neu’r system storio slyri”.
(9) Yn rheoliad 9—
(a) yn lle “silwair, slyri neu olew tanwydd” rhodder “silwair neu slyri”;
(b) yn lle “seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd” rhodder “seilo neu system storio slyri”.
(10) Yn rheoliad 10(1), hepgorer “, 5(1)”.
(11) Hepgorer Atodlen 3.
Vaughan Gething
Y Dirpwy Weinidog Iechyd, ar ran Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
14 Mawrth 2016