
2016 Rhif 358 (Cy. 111)
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 2 Mawrth 2016
Yn dod i rym 3 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran holl dir Cymru.
Diwygio Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016
2 

(1) Mae Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a nodir yn rheoliad 3.
(2) Os nad yw—
(a) Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016; a
(b) Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir) 2016
wedi dod i rym ar y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, nid yw’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 yn cael effaith hyd nes y bydd y Gorchmynion hynny wedi dod i rym.
3 

(1) Yn rheoliad 2 (Dehongli) yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Cynllunio 2008”.
(2) Yn rheoliad 3(1)(a) ar ôl “gorsaf gynhyrchu” mewnosoder “ac eithrio gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir”;
(3) Ar ôl rheoliad 3(1)(a) mewnosoder-“(aa) adeiladu, estyn neu addasu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir”;
(4) Yn rheoliad 4(3) (Gorsafoedd cynhyrchu)—
(a) yn y diffiniad o “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) ar ôl “sy’n cynhyrchu trydan” mewnosoder “ond nid yw’n cynnwys gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir”;
(b) mewnosoder yn y lle priodol—“
 ystyr “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” (“onshore wind generating station”) yw gorsaf gynhyrchu—
(a) sy’n cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt;
(b) sydd wedi ei lleoli yng Nghymru, ond nid mewn dyfroedd yng Nghymru nac yn gyfagos â Chymru hyd at ffin y môr tiriogaethol i gyfeiriad y môr; ac
(c) nad yw’n orsaf gynhyrchu y rhoddwyd cydsyniad mewn cysylltiad â hi—
(i) o dan adran 36(1) o Ddeddf Trydan 1989; neu
(ii) o dan adran 114 o Ddeddf 2008,cyn i’r Gorchmynion priodol ddod i rym ac sy’n parhau mewn grym, a
(d) nad yw’n orsaf gynhyrchu—
(i) y mae cais ar gyfer gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad datblygu mewn cysylltiad â hi wedi ei dderbyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 55 o Ddeddf 2008 (Derbyn ceisiadau) ond nid yw wedi ei benderfynu cyn y dyddiad y daw’r Gorchmynion hyn i rym; neu
(ii) yn dilyn adolygiad barnwrol o unrhyw benderfyniad i wrthod derbyn cais am gydsyniad datblygu neu benderfyniad i wrthod cydsyniad datblygu, y mae cais ar gyfer gorchymyn sy’n rhoi cydsyniad datblygu mewn cysylltiad â hi wedi ei dderbyn gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ond nid yw wedi ei benderfynu cyn y dyddiad y daw’r Gorchmynion i rym.”
(c) mewnosoder yn y lle priodol—“
 ystyr “y Gorchmynion” (“the Orders”) yw—
(a) Gorchymyn Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir (Esemptiad) (Cymru a Lloegr) 2016; a
(b) Gorchymyn Cynllunio Seilwaith (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir) 2016.”
(d) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan o Ynni’r Gwynt ar y Tir
4A. 

(1) Nid yw adeiladu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir o fewn rheoliad 3(1)(aa) ac eithrio pan ddisgwylir i’r orsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir (pan gaiff ei hadeiladu) fod â gallu cynhyrchu gosodedig o 10 megawat neu uwch.
(2) Nid yw estyn neu addasu gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir o fewn rheoliad 3(1)(a) ac eithrio pan ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu’r gallu cynhyrchu gosodedig gan o leiaf 10 megawat.
(3) Yn y rheoliad hwn mae i “gorsaf cynhyrchu trydan o ynni’r gwynt ar y tir” a “gallu cynhyrchu gosodedig” yr ystyron a roddir yn rheoliad 4(3).”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2016