
2016 Rhif 351 (Cy. 109)
Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr
Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016
Gwnaed 9 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mawrth 2016
Yn dod i rym 5 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 198 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ebrill 2016.
Diwygio Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016
2 

(1) Mae Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, yn y tair colofn, hepgorer y cofnodion mewn perthynas ag —
(a) Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) 2004; a
(b) Rheoliadau’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (Atgyfeirio Achosion a Adolygwyd) (Diwygio) 2005.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2016