
2016 Rhif 32 (Cy. 13)
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016
Gwnaed 12 Ionawr 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Ionawr 2016
Yn dod i rym 8 Chwefror 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b), 44(9)(b), 143(1) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2016.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Chwefror 2016 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2016 ymlaen.
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015
2 
Yn erthygl 3(1) o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015, yn lle “31 Mawrth 2016” rhodder “31 Mawrth 2017”.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
12 Ionawr 2016