
2016 Rhif 314 (Cy. 103)
Adnoddau Dŵr, Cymru
Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2016
Gwnaed 8 Mawrth 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mawrth 2016
Yn dod i rym 30 Mawrth 2016
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 30 Mawrth 2016.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013
2 
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar ôl “Aberdyfi” mewnosoder “Aberdyfi Rural Beach”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2016